Bydd Ensemble Cymru yn chwarae nodau o ddiolch i bobl Cymru a thu hwnt, mewn cyngerdd arbennig yn Eglwys Gloddaeth Llandudno, am 10.30 ar fore Iau, Mai 23
Cynhelir y Cyngerdd Diolch yn Llandudno fel arwydd o ddiolch i THE BIG GIVE a phobl Cymru a thu hwnt am gynorthwyo Ensemble Cymru i godi £25,000 tuag at godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth siambr yng Nghymru.
Elusen sy’n ymgyrchu’n flynyddol i godi arian at elusennau drwy gyfrannu arian cyfatebol yw THE BIG GIVE, ac yn sgil ei ymgyrch ddiweddaraf cyn y Nadolig, llwyddodd Ensemble Cymru i godi £25,000. Bydd yr arian yn cynorthwyo’r Ensemble, sydd hefyd yn ensemble preswyl i Brifysgol Bangor a Venue Cymru, i fynd â cherddoriaeth siambr glasurol i gorneli o Gymru nad sydd yn cael cyfle i glywed na gwerthfawrogi cerddoriaeth siambr glasurol safonol yn aml.
Tri aelod o Ensemble Cymru fydd yn perfformio yn y Cyngerdd Diolch, sef Peryn Clement-Evans (Clarinet a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru), Nicola Pearce (Soddgrwth) a Christina Mason-Scheuermann (piano) a bydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Schubert, Glinka a Benny Goodman.
Yn ogystal â mwynhau’r cyngerdd, bydd cyfle i fynychwyr drafod a rhannu eu syniadau am ddyfodol Ensemble Cymru yn Llandudno. Esboniodd Peryn Clement-Evans ymhellach,
“Mae Ensemble Cymru yn awyddus i weithio mwy yn ardal Llandudno, nid yn unig drwy gynnal cyngherddau, ond hefyd drwy gynnal gweithgareddau yn y gymuned. Dros baned a chacen yn Eglwys Gloddaeth Llandudno, mewn awyrgylch anffurfiol, bydd cyfle i ni glywed gan drigolion a busnesau Llandudno ble’r hoffent ein gweld ni’n perfformio, pa fath o ddarnau yr hoffent eu clywed a pha fath o weithgareddau cymunedol yr hoffent i Ensemble Cymru gymryd rhan ynddyn nhw. Cynllun peilot yw hwn ac os bydd yn llwyddiannus, mi fyddwn ni’n dilyn yr un drefn mewn rhannau eraill o Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.”
Yn ystod y cyngerdd yn Llandudno, bydd cyfle i glywed rhagflas o gyngherddau’r hydref pan fydd Ensemble Cymru yn lansio ei ymgyrch @Caru Schubert, sef ymgyrch i gyflwyno cerddoriaeth swynol Franz Schubert i gymunedau ac ysgolion ar hyd ac ar led Cymru. Bydd y wybodaeth i gyd ar wefan Ensemble Cymru maes o law.
Diwedd.
Nodyn i Olygyddion:
- Mae Ensemble Cymru yn gwmni cyfyngedig gan warant a gofrestrwyd yng Nghymru, rhif 0429 1850 – Elusen cofrestredig, rhif 1090316
- Gellir darparu lluniau o’r aristiaid os oes angen.
- Am wybodaeth bellach, neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Llinos Angharad ar 07766 255509.