Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)

Dymunwn ddiolch i bawb ddaeth i’r Cyngerdd Diolch yn Eglwys Gloddaeth, Llandudno. Roedd hi’n braf gweld cymaint yno, ac mae’n amlwg dros sgwrs a phaned a bara brith fod nifer fawr iawn ohonoch yn awyddus i Ensemble Cymru ddychwelyd! Gwyliwch y gofod felly!!

Bu’r rhaglen Heno wrthi’n ffilmio’r digwyddiad hefyd – dyma linc i’r rhaglen:

www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p078skt5/heno-thu-23-may-2019

A dyma ddetholiad o rai o’r lluniau dynwyd yn y cyngerdd gan y ffotograffydd Iolo Penri.

Gerallt Pennant yn holi Peryn ar gyfer y rhaglen ‘Heno’