Posted on

Dathlu Alawon

Taith Mis Tachwedd

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd.

Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd yn F fwyaf gan Schubert ac Wythawd gan y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf mewn naw cyngerdd arbennig ar hyd ac ar led Cymru ym mis Tachwedd. Perfformir y ddwy wythawd gan chwareuwyr feiolin, fiola, cello, bas dwbwl, clarinet, basŵn a chorn Ffrengig a hynny mewn lleoliadau yn amrywio o Gaergybi, Bangor, Pwllheli, Llandudno, Bae Colwyn, Cilcain, Tudraeth, i Aberhonddu ac Aberystwyth rhwng Tachweddd 2 a 17. Darllenwch fwy Dathlu Alawon