A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd.
Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd yn F fwyaf gan Schubert ac Wythawd gan y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf mewn naw cyngerdd arbennig ar hyd ac ar led Cymru ym mis Tachwedd. Perfformir y ddwy wythawd gan chwareuwyr feiolin, fiola, cello, bas dwbwl, clarinet, basŵn a chorn Ffrengig a hynny mewn lleoliadau yn amrywio o Gaergybi, Bangor, Pwllheli, Llandudno, Bae Colwyn, Cilcain, Tudraeth, i Aberhonddu ac Aberystwyth rhwng Tachweddd 2 a 17.
Wrth edrych ymalen at y daith, dywedodd Peryn Clement-Evans, cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru,
Mae’n fraint i Ensemble Cymru gael teithio unwaith eto led led Cymru gan berfformio campweithiau gan un o gyfansoddwyr alawon enwoca’r byd, Schubert, ac un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru heddiw, John Metcalf. Mae aelodau’r grwp yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i nifer o ganolfannau celfyddydol pwysig Cymru yn ogystal ag ymweld â lleoliadau newydd a chyflwyno alawon swynol a thelynegol i’r amrywiol gynulleidfaoedd. Rydan ni’n hynod ddiolchgar i’r canolfannau hyn am eu cydweithrediad a’u parodrwydd i sicrhau fod cerddoriaeth siambr yn cael llwyfan teilwng yng Nghymru heddiw.
Ychwanegodd,
Un o orchestion mwyaf Schubert yw ei wythawd i linynnau a chwyth yn F fwyaf ac mae’r gwaith o chwe symudiad yn cyfleu asbri melodaidd a thelynegol ac ysbeidiau achlysurol byr o dywyllwch sy’n adlewyrchu’r iselder y dioddefodd Schubert tuag at ddiwedd ei fywyd. Fel Schubert, mae John Metcalf yn feistr ar alawon a chyfansoddiadau telynegol a’r un asbri melodaidd a thelynegol sydd i’w glywed yn ei Wythawd yntau a gomisiynwyd yn arbennig gan Ensemble Cymru.
Alaw werin Gymraeg sy’n coffau tynged y cariadon anlwcus o Langynwyd, Ann Maddocks a Wil Hopcyn yw Bugeilio’r Gwenith Gwyn a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r cyfansoddiad. Mae manylion y daith i’w cael ar y wefan hon.
Diwedd
Nodyn i Olygyddion;
- Sefydlwyd Ensemble Cymru fel elusen yn 2002, a’i genhadaeth yw hyrwyddo treftadaeth a diwylliant cerddoriaeth siambr gyfoes Gymreig ynghyd â cherddoriaeth siambr o bob cwr o’r byd, i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Bob blwyddyn, mae Ensemble Cymru yn cyrraedd cymunedau ledled Cymru gan berfformio mewn neuaddau cyngerdd yn ogystal ag ysgolion, ysgolion ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig, ysbytai, hosbisau a lleoliadau eraill.
- Grŵp o hyd at 18 o gerddorion proffesiynol o bob cwr Prydain sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth siambr yw’r Ensemble. Bydd 8 o’r Ensemble ar y daith hon ac yn eu mysg bydd cerddorion o ardaloedd Gwynedd, Casnewydd, Penfro, Ynys Môn a Chonwy.
- Ensemble Cymru yw Ensemble Preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru ac mae’n ddiolchgar i’r canlynol am eu cefnogaeth barhaus: Y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau, the Big Give, Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones a The Waterloo Foundaton.