Dod i Adnabod Wythawd Schubert
Schubert:
Yn enedigol o Awstria, roedd Franz Schubert (1797-1828) yn gyfansoddwr toreithiog a wnaeth gyfraniadau sylweddol i’r genre symffonig, cerddoriaeth siambr a’r Lied Almaenig. Gan dynnu ar draddodiad clasurol Viennaidd, llywiodd ei lwybr ei hun o fewn y cyfnod Rhamantaidd gan gyfansoddi iaith gerddorol gymhleth a chynnil ar yr un pryd. Er y gwerthfawrogwyd llawer o’i waith o fewn cylchoedd cyfyng yn ystod ei oes, daeth ei waith yn fwy adnabyddus ar ôl ei farwolaeth a daeth yn y pen draw yn un o gyfansoddwyr mwyaf y 19eg ganrif. Credir mai syffilis oedd achos marwolaeth gynnar Schubert ac, yn 31 mlwydd oed, yn unol â’i ddymuniadau, fe’i claddwyd yn agos i fedd Beethoven yn Vienna.
Gan fod Iarll Troyer wedi mwynhau Seithawd Op. 20 gan Beethoven gymaint, fe gomisiynodd waith tebyg gan Schubert. Yn wahanol i ddarn Beethoven, ychwanegwyd ail feiolin i’r Wythawd hon, gan arwain at y cyfuniad anarferol o bedwarawd llinynnol, yn ogystal â chlarinét, corn, baswn, a bas dwbl. Er nad oedd Schubert mewn iechyd da pan oedd yn cyfansoddi’r wythawd, mae cymeriad cyffredinol y cyfansoddiad yn fywiog, gydag ysbeidiau achlysurol byr o dywyllwch sy’n awgrym o’r tristwch a ddaw yn nes ymlaen yn ei gerddoriaeth.
Yr Wythawd
Franz Schubert – Wythawd yn F fwyaf D. 803 (1824)
I. Adagio – Allegro – Più allegro
II. Adagio
III. Allegro vivace – Trio – Allegro vivace
IV. Andante – variations. Un poco più mosso – Più lento
V. Menuetto. Allegretto – Trio – Menuetto – Coda
VI. Andante molto – Allegro – Andante molto – Allegro molto
Mae’r symudiad agoriadol yn cyhoeddi cywair gwreiddiol F fwyaf ac fe gaiff y syniad rhythmig herciog ei ailadrodd drwy gydol y gwaith. Egyr yr ail symudiad, sef yr Adagio, gydag unawd clarinét sy’n blodeuo’n ddeuawd gyda ffidil. Mae cysgod dros ddiwedd y symudiad gyda nodyn F pizzicato ar y sielo a chordiau ingol yn pwysleisio’r coda.
Yna, gan ddychwelyd i F fwyaf, mae’r symudiad nesaf yn ail sefydlu’r rhythmau herciog a gyflwynwyd ar y dechrau. Mae’r pedwerydd symudiad yn cynnwys set o amrywiadau ar thema o’r operetta
Die Freunde Von Salamanka. Trosglwyddir y thema yn glyfar o gwmpas yr Ensemble, gan gadarnhau perthynas gyfartal rhwng yr wyth offeryn.
Ymddengys fod awyrgylch ysgafnach y pumed symudiad i’w groesawu ar ôl cymhlethdod yr hyn â’i rhagflaenodd; mae arddull Glasurol i bensaernïaeth y Minuet a’r Trio hwn. Fe’i dilynir gan agoriad cythryblus y symudiad olaf sy’n ildio’n fuan i thema gyflym a hwyliog. Ond mae cord F fwyaf sy’n dechrau’r alaw hon yn gweithio’n galed i oresgyn y cyflwyniad araf, sy’n cynnwys tremolo – nodyn ailadroddus cyflym ar y sielo. Â’r symudiad yn ei flaen gyda pheth ansicrwydd, gan archwilio cyweiriau amrywiol a daw i stop fwy nag unwaith gan gloi gyda diweddglo prysur ac egnïol.
Dod i Adnabod Wythawd John Metcalf
gan John Metcalf
Ym mis Tachwedd 2014 dechreuais weithio ar osodiadau o ganeuon gwerin Cymraeg. Mae’r gwreiddiol, wrth gwrs, yn fynegiannol ac yn llawn cymeriad, yn enwedig yr alaw dor-calonnus brydferth, Bugeilio’r Gwenith Gwyn. Wedi i mi ei gosod, mi es ati’n syth i wneud brasluniau ar gyfer datblygiadau pellach ar amrywiadau ar y gân ac yn fuan wedyn cyfansoddais y darn CHANT, a gafodd ei seilio arno. Pan ofynnodd Peryn Clement- Evans i mi llynedd i gyfansoddi Wythawd ar gyfer Ensemble Cymru, gwyddwn ar unwaith pa syniadau a brasluniau roeddwn i’n dymuno eu datblygu.
Mae’r cyfuniad o offerynnau y cyfansoddodd Schubert ei Wythawd anferthol ar eu cyfer –Clarinet, Corn, Baswn a Phedwarawd Llinynnol (gyda Bas Dwbl) – yn soniarus ac eto’n ddigalon ac yn rhoi rhwydd hynt i rinweddau melodaidd ei gerddoriaeth. Mae Cymru hefyd yn enwog am ei chanu ac mae’r offeryniaeth yn wir rodd, yn arbennig i gyfansoddwr Cymreig efallai. Y canu y cyfeiriaf ato yma yw canu emynau ac rwyf wedi pwysleisio’r dewis hwnnw drwy ddefnyddio’r nodyn pedal A drwy’r holl ddarn.
Wrth gyfansoddi’r gwaith, roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r cellwair adnabyddus mai’r unig beth i’w wneud ar ôl canu cân werin oedd ei chanu eto’n uwch. Mewn ymgais i wrth-ddweud hyn, ac wrth chwilio am brofiad cerddorol a fyddai’n datblygu ac yn esblygu yn ystod y chwarae, fy man cychwyn oedd y ffaith fod y gân brydferth hon yn coffáu tynged cariadon anlwcus Ann Maddocks a Wil Hopcyn.
Er nad ydwyf wedi dilyn y stori garu drasig hon yn gaeth, ceisiais adlewyrchu ei huchafbwyntiau a’i hisafbwyntiau, ac fe gaiff rhain eu mynegi ymhellach wrth wneud defnydd bwriadol o wrthgyferbyniadau yn y gwaith, gwryw a benyw, cwestiwn ac ateb, cyweiriau mwyaf a lleddf.
Ar adegau mae’r offerynnau chwyth (gwrywaidd) yn gwrthbwyntio’r offerynnau llinynnol (benywaidd), a phob grwp yn ymddwyn fel eu alter egos cudd. Gosodwyd trefniant yr alaw werin ar ddiwedd y darn mewn ymgais i roi cyd-destun iddo o fewn parhad profiad dynol ein gwlad hynafol.
Mae saith adran i’r gwaith 20 munud hwn – Cyflwyniad; Amrywiad 1; Amrywiad 11; Amrywiad 111; Amrywiad 1V; Amrywiad V; Thema.
Yn olaf, hoffwn nodi fy niolch i Ensemble Cymru am gomisiynu gwaith moruchelgeisiol ar adeg o gryn lymder ariannol yn y celfyddydau yng Nghymru.