Posted on

Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno

Un o uchabwyntiau ein taith yn yr hydref oedd ein hymweliad â Chanolfan Hen Filwyr Dall Llandudno yng ngogledd Cymru. Canolfan seibiant sy’n hyfforddi hen filwyr i ailsefydlu eu hunain yw’r ganolfan yn Llandudno, gan asesu a rhoi cymorth i hen filwyr â nam golwg. Adeiladwyd yr adeilad sydd ar gyrion Llandudno yn ôl ar dechrau’r ganrif ddiwethaf gan deulu’r Forresters fel cartref ymgeledd i fwynwyr siâl, ond bellach hon yw canolfan ddiweddaraf i hen filwyr dall yn Llandudno Blind Veterans UK.

Darllenwch fwy Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno
Posted on

Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin!  Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa yng Nghymru ac ar y llwyfan bydd perfformwyr rhyngwladol yn ymuno â rhai o ieuenctid talentog Academi Llais Ryngwladol Cymru.

Darllenwch fwy Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy