Mi gawsom ni adolygiadau rhagorol gan bawb ddaeth i’n clywed yn perfformio wythawd gan Schubert ac wythawd newydd gan John Metcalf o gwmpas Cymru. Os gawsoch chi gyfle i ddod i’n gweld, gobeithio i chi fwynhau!
Dyma rhai o’r adolygiadau cawsom ar wythawd John Metcalf a Schubert:
‘Diolch Ensemble Cymru am noson fendigedig … noson gofiadwy iawn’ Theatr Colwyn, Bae Colwyn
‘Clywais y rhaglen hyfryd hon yn Ucheldre. Peidiwch â’i cholli ‘.
‘A fi. Cytuno’n llwyr, peidiwch â’i cholli.’ Ucheldre, Caergybi.
‘Diolch am y cyngerdd ym Mhwllheli. Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn.’
‘Cyngerdd gwych nos Wener. Cafodd groeso mawr gan y rhai yno, a oedd yn cynnwys llawer o ddieithriaid! Llongyfarchiadau!’ Cilcain, Yr Wyddgrug.
‘Perfformiad gwych heno… Mi ges i ‘mhlesio’n fawr… Roedd y cyngerdd yn wirioneddol ryfeddol… Tŷ llawn, sy’n wych.’ Cilcain