Adolygiadau Wythawd Schubert a Metcalf

Adolygiadau Schubert Metcalf
Brand Taith Schubert

Mi gawsom ni adolygiadau rhagorol gan bawb ddaeth i’n clywed yn perfformio wythawd gan Schubert ac wythawd newydd gan John Metcalf o gwmpas Cymru. Os gawsoch chi gyfle i ddod i’n gweld, gobeithio i chi fwynhau!

Dyma rhai o’r adolygiadau cawsom ar wythawd John Metcalf a Schubert:

‘Diolch Ensemble Cymru am noson fendigedig … noson gofiadwy iawn’  Theatr Colwyn, Bae Colwyn

‘Clywais y rhaglen hyfryd hon yn Ucheldre. Peidiwch â’i cholli ‘.

‘A fi. Cytuno’n llwyr, peidiwch â’i cholli.’  Ucheldre, Caergybi.

‘Diolch am y cyngerdd ym Mhwllheli. Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn.’

‘Cyngerdd gwych nos Wener. Cafodd groeso mawr gan y rhai yno, a oedd yn cynnwys llawer o ddieithriaid! Llongyfarchiadau!’ Cilcain, Yr Wyddgrug.

‘Perfformiad gwych heno… Mi ges i ‘mhlesio’n fawr… Roedd y cyngerdd yn wirioneddol ryfeddol… Tŷ llawn, sy’n wych.’ Cilcain