Cefn Ydfa a Bugeilio’r Gwenith Gwyn

Cefn Ydfa

Yn ôl yn yr haf, un o’r profiadau arbennig gawsom ni wrth baratoi at ein taith “Wythawd” oedd ymweld â chartref Ann Thomas, Cefn Ydfa; gwrthrych y gân werin, Bugeilio’r Gwenith Gwyn.

Cefndir
Os nad ydych chi’n gyfarwydd â chefndir Bugeilio’r Gwenith Gwyn, mae hi’n disgrifio’r berthynas gariadus drasig rhwng Wil Hopcyn ac Ann Thomas. Roedd Ann yn perthyn i deulu o ffermwyr cefnog o bentref bach yn ne Cymru, Llangynwyd ger Maesteg, ond dim ond töwr a bardd lleol oedd Wil. Credai Mam Ann nad oedd Wil yn ddigon da i’w merch. Fe’i gorfododd hi i briodi mab i sgweiar lleol ac ychydig ddyddiau cyn cynnal y briodas, gadawodd Wil y pentref am Fryste.  Fisoedd yn ddiweddarach, dychwelodd Wil adref a phan gyrhaeddodd, darganfu fod Ann yn marw. Wrth i Wil  ddal Ann yn ei freichiau, ymlaciodd a gwenu oherwydd ei chariad tuag ato, ac yna bu farw. Roedd Ann yn 23 ac fe fu farw Wil 14 mlynedd yn ddiweddarach ar ôl ysgrifennu cân er cof am eu cariad. Mae’r ddau wedi eu claddu yn Llangynwyd erbyn hyn.

Y Gân
Cafodd y cyfansoddwr John Metcalf, a dau o aelodau’r Ensemble gyfle i gael tynnu eu lluniau o flaen Cefn Ydfa. Cyfle gwych felly i’r cerddorion chwarae prif alaw’r gân ar fuarth y ffarm. Dyma Peryn a Nicola i’ch atgoffa chi o’r alaw.

John Metcalf