Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin! Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa yng Nghymru ac ar y llwyfan bydd perfformwyr rhyngwladol yn ymuno â rhai o ieuenctid talentog Academi Llais Ryngwladol Cymru.
Nodwch y dyddiadau hyn yn eich dyddiaduron ar gyfer yr Opera, Priodas Figaro gan Mozart:
Sadwrn Chwefror 29, Theatr Hafren, y Drenewydd
Mercher, Mawrth 4, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Sul, Mawrth 8, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Mawrth, Mawrth 10, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Gwener, Mawrth 13 Operatif @ Pontio Bangor
Sadwrn Mawrth 14 Pontio, Bangor
Mercher, Mawrth 18, Theatr Torch, Aberdaugleddau
Sadwrn, Mawrth 21, Glan yr Afon, Casnewydd
Mercher, Mawrth 25, Ffwrnes, Llanelli
Sadwrn, Mawrth 28, Courtyard, Henffordd