Un o uchabwyntiau ein taith yn yr hydref oedd ein hymweliad â Chanolfan Hen Filwyr Dall Llandudno yng ngogledd Cymru. Canolfan seibiant sy’n hyfforddi hen filwyr i ailsefydlu eu hunain yw’r ganolfan yn Llandudno, gan asesu a rhoi cymorth i hen filwyr â nam golwg. Adeiladwyd yr adeilad sydd ar gyrion Llandudno yn ôl ar dechrau’r ganrif ddiwethaf gan deulu’r Forresters fel cartref ymgeledd i fwynwyr siâl, ond bellach hon yw canolfan ddiweddaraf i hen filwyr dall yn Llandudno Blind Veterans UK.
Yn ystod Wythnos y Cofio, cafodd yr Ensemble gyfle i ymweld â’r Ganolfan a pherfformio i’r hen filwyr. Yn dilyn perfformiad o Wythawd Schubert, cafodd y preswylwyr gyfle i deilmlo a byseddu’r offerynnau a sgwrsio gyda’r offerwynwyr am gerddoriaeth ac am yr offerynnau cerdd. Yna, ar ôl paned, cafwyd perfformiad o Bugeilio’r Gwenith Gwyn gan John Metcalf. Roedd yr alaw yn amlwg yn gyfarwydd i nifer wrth iddyn nhw ganu gyda’r Ensemble, a gwelwyd ambell i ddiegryn ar wynebau rhai o’r gynulleidfa.