Rhith Ŵyl – 25 Medi, 1100

Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru. Mae’n fyd newydd digidol, edrychwn ymlaen i chi ymuno gyda ni!  

Chredydau

ENSEMBLE CYMRU

Cyfarwyddwr Artistig | Artistic Director:

PERYN CLEMENT-EVANS

Obo | Oboe

HUW CLEMENT-EVANS

Basn | Bassoon

LLINOS ELIN OWEN

Clarinét | Clarinet

PERYN CLEMENT-EVANS

Piano

RICHARD ORMROD

Cynhyrchydd Fideo | Video Producer

DEWI FÔN EVANS

Cynhyrchydd a Golygydd Sain| Sound Producer & Editor

(Perfformiadau o Glinka a Vivaldi | Performances of Glinka and Vivaldi)

RACHEL SMITH (Ophelia Productions)

Peiriannydd Sain | Sound Engineer

ALED IFAN (AL Touring Ltd)

Lleoliad | Location

CANOLFAN UCHELDRE (Caergybi)| UCHELDRE CENTRE (Holyhead)

Ffilmiwyd ar gyfer Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2020

Filmed for North Wales International Music Festival 2020

© (P) Ensemble Cymru 2020

PROGRAMME

Sarabande o | Sarabande from

Partita rhif 6 yn E leiaf | Partita No. 6 in E minor BWV 830

JOHANN SEBASTIAN BACH (1685 – 1750)

Sonata yn C leiaf, RV 53  | Sonata in C minor, RV 53
ANTONIO VIVALDI (1678 – 1741)

Trio Pathétique yn D leiaf (1827) | Trio Pathétique in D minor (1827)
MICHAEL GLINKA (1804 – 1857)

Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru (Llandudno), yw’r prif grŵp perfformio cerddoriaeth siambr yng Nghymru. Mae gan yr ensemble aelodaeth graidd o 20 offerynwr a chantorion. Wedi’i sefydlu fel elusen yn 2002, ei nod yw hyrwyddo treftadaeth a diwylliant cerddoriaeth siambr gyfoes Cymru ochr yn ochr â cherddoriaeth siambr o bob cwr o’r byd i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Ers mis Medi 2019, bu Ensemble Cymru ar daith yn perfformio campwaith Schubert yr Octet a chomisiwn newydd gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf; yn gweithio gyda thros 60 o gyfansoddwyr ifanc yn Ne Orllewin Cymru; bu’r Ensemble ar daith ledled Cymru gydag Opera Canolbarth Cymru mewn cynhyrchiad o Figaro (Mozart), a gafodd glod arbennig, a chychwynnodd gyfnod preswyl 6 mis yn Ysgol Gynradd Tudno (Llandudno). Mae’r Ensemble bellach yn edrych ymlaen at fod yn rhan o brosiect 3 blynedd ‘Canfod y Gân’ dan arweiniad Canolfan Gerdd William Mathias (Caernarfon) fydd yn dod â phobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ynghyd i greu cerddoriaeth.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, teithiodd Ensemble Cymru gyda chwmni Opera Canolbarth Cymru mewn cynyrchiadau o Eugene Onegin (Tchaikovsky) a Tosca gan Puccini; a chydag OPRA Cymru yn ei gynhyrchiad arobryn o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood. Perfformiodd yr Ensemble gyda’r delynores Ffrengig, Isabelle Moretti yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol (Caernarfon) ac ymgymerodd â dwy daith genedlaethol i benllanw prosiect dwy flynedd o gerddoriaeth siambr yn cynnwys y delyn a gyd-guradwyd gan brif delynores yr Ensemble, Anne Denholm (cyn Delynores Frenhinol) a’r Cyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans.

Sefydlwyd Rhaglen Gyfnewid Ddiwylliannol Ryngwladol Ensemble Cymru yn 2015. Yn dilyn y lansiad, perfformiodd yr Ensemble yn Llysgenhadaeth Prydain yn Berne, ac mewn lleoliadau yn Davos, Chur a Valais. Mae’r Ensemble yn meithrin cysylltiadau â Tsieina ac wedi perfformio yn Shanghai a Hong Kong fel rhan o Genhadaeth Diwylliant a Masnach Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2017. Yn 2014, cyrhaeddodd cynhyrchiad Ensemble Cymru o Pedr a’r Blaidd (Prokofiev) fwy na 15,000 o bobl drwy gyfrwng taith genedlaethol a darllediadau S4C. Roedd y cynhyrchiad a’r recordiad CD o’r darn yn cynnwys yr actor Hollywood, Rhys Ifans yn adrodd y stori yn y Gymraeg.