Fis Medi 2019, dechreuodd triawd Peryn Clement-Evans (clarinét), Nicky Pearce (soddgrwth) a Richard Ormond (piano) ar breswyliad wythnos o hyd gyda myfyrwyr o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Ochr yn ochr â Lynne Plowman buont yn arwain gweithdai cyfansoddi i oddeutu 400 o fyfyrwyr TGAU a Lefel A.
Yn y gweithdai bu’r myfyrwyr yn perfformio amrywiaeth o blith repertoire dethol ac ysgogol i safon uchel – gan godi ymwybyddiaeth y bobl ifanc o botensial y triawd, a’r offerynnau oedd ynddo. Roedd y repertoire a berfformiwyd yn cynnwys darn sydd newydd ei gomisiynu gan Lynne Plowman, a repertoire newydd a ysgrifennwyd ar gyfer y gweithdai gan ddau fyfyriwr cyfansoddi o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Yn ogystal â pherfformio, rhoddodd y triawd gyflwyniadau unigol effeithiol a chlir am botensial eu hofferynnau, a sut i ysgrifennu ar gyfer pob offeryn. Cafodd y gweithdai groeso brwd gan y myfyrwyr a’r athrawon cerdd a oedd yn bresennol.
Hefyd rhoddodd y triawd ddau weithdy rhyngweithiol iawn mewn ysgol arbennig i blant sydd ag anableddau corfforol a dysgu dwys, a chyngerdd matinee arall ar gyfer plant ysgol gynradd. Unwaith eto, roedd y repertoire wedi’i ddewis yn dda a’i berfformio’n rhagorol, ac roedd natur a chynnwys y digwyddiadau’n addas i’r gynulleidfa a oedd yn bresennol. Cafodd y disgyblion hwyl a buont yn chwarae rhan lawn yn y gweithdy drwyddi draw.
Roedd y triawd i fod i ddychwelyd ddiwedd Tymor y Gwanwyn 2020 ar gyfer rhagor o waith preswyl. Roeddent i fod i berfformio a recordio pob un o’r 67 o gyfansoddiadau o waith y cyfansoddwyr ifanc a Lynne Plowman yn bresennol. Yna roeddent i fod i berfformio detholiad o’r darnau hynny mewn cyngerdd cyhoeddus cloi yn Rhos y Gilwen, ond oherwydd cyfyngiadau Covid19 bu’n rhaid gwneud trefniadau amgen.
Cafodd y 67 darn eu perfformio a’u recordio mewn lleoliad yn y gogledd gan driawd gwahanol gyda Peryn Clement-Evans (clarinét), Amy Jolly (soddgrwth) ac Iwan Llewelyn-Jones (piano), cafodd 20 o’r darnau eu trafod mewn gweithdy gyda’r cyfansoddwyr ifanc a Lynne Plowman yn bresennol ac yn chwarae rôl gwbl ryngweithiol dros Zoom.
Ni fuasai hynny’n bosib heb y gwaith manwl o sicrhau lleoliad rhagorol, technegydd sain, fideograffydd, ac amgylchedd Covid-ddiogel i’r perfformwyr. O ganlyniad mae pob myfyriwr fu’n cymryd rhan ar fin derbyn recordiad o’u cyfansoddiad, a bydd 20 o’r rhai mwyaf addawol wedi elwa o weithdy rhyngweithiol.
Sylwadau gan Gyfansoddwyr Ifanc Medi 2020
Eleanor Nicholas
Gwnaeth yr offerynnwyr esbonio eu offerynnau yn effeithiol.
The trio gave very clear explanations about their instruments.
Catrin Edwards
Credaf i aelodau Triawd Ensemble Cymru chwarae fy narn yn hyfryd iawn ac roedd yn braf iawn imi glywed fy narn yn cael ei chwarae gan offerynnau go iawn. Roedd aelodau Triawd Ensemble Cymru’n gyfeillgar ac yn gymwynasgar iawn ac yn chwarae fy narn yn union fel y dychmygais i. Roedd yn gyffrous iawn clywed Triawd Ensemble Cymru’n chwarae fy narn ac yn siarad â mi am fy narn ar ôl y perfformiad, roedd yn brofiad arbennig iawn.
Gwenllian Hunting Morris
Chwaraeodd yr Ensemble yn sensitive iawn i’r darnau. Credaf iddynt gyfleu naws pob ddarn yn arbennig trwy wrando’n union ar gyfarwyddiadau’r cyfansoddwr, gofyn cwestiynau a bod yn agored i unrhyw awgrymiadau. Diolch yn fawr am berfformiad a recordiad ffantastig!
Perfformiodd y triawd fy narn gyda sensitifrwydd mawr. Mi wnaethant bortreadu naws ac awyrgylch y darn yn dda iawn a rhoi sylw manwl i gyfarwyddiadau’r sgôr. Fe ofynnon nhw gwestiynau da iawn imi, a gwneud awgrymiadau defnyddiol yn agored hefyd. Diolch am berfformiad gwych!
Florence Gunn Wilson
Mi wnes i fwynhau ysgrifennu i’r ensemble yn fawr iawn. Maen nhw mor dalentog a daethant â’r darn yn fyw mewn ffordd hyfryd iawn.
Emily Hunsnjak
Hoffais y triawd yn fawr iawn eleni. Rwy’n credu eu bod yn swnio’n neis iawn gyda’i gilydd ac roeddwn i’n falch iawn o’r ffordd y gwnaethon nhw berfformio fy narn.
Diolch o galon i Ensemble Cymru!
Emyr Wynne Jones (Cadeirydd/Chair)
Sylwadau’r Bobl Ifanc
Mi wnaeth yr offerynnwyr esbonio eu hofferynnau’n effeithiol.
The trio gave very clear explanations about their instruments.