Datblygodd Ysgol Tudno ac Ensemble Cymru arfer arloesol ym maes y Celfyddydau Mynegiannol drwy ddull ymholi-proffesiynol cydweithredol ac maent wedi cynyddu ymgysylltiad trwy ymateb i anghenion a diddordebau’r disgyblion ac wedi meithrin cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Adroddiad Annibynnol gan Nia Richards (Tybed)
Mae ysgolion cymunedol effeithiol yn defnyddio asedau’r ysgol mewn modd ystyriol i wella bywydau plant a theuluoedd yn y gymuned leol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol mewn ffyrdd mentrus a chreadigol. Maent yn ceisio mynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth chwaraeon, diwylliannol neu ofal lleol.
Estyn 20201
Gall profiadau yn y maes hwn ysbrydoli a chymell dysgwyr gan eu bod yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod i gyswllt â phrosesau creadigol. Golyga hyn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau megis ymweld â theatrau ac orielau, ac i ddod ag arbenigedd ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth.
Addysg Cymru, 20202
Ein diolchiadau….
Ar ran y plant, athrawon, cerddorion, cyfansoddwyr ac ymarferwyr cerdd, carai Ensemble Cymru ddiolch i bawb sy’n parhau i roi mor hael i ddod â ni at ein gilydd i ddysgu gan, ac ysbrydoli ein gilydd. Yn benodol, carai Ensemble Cymru ddiolch ein cefnogwyr gan gynnwys y rhai a roddodd i Apel Nadolig y Big Give yn 2018, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u rhaglen Cydweithio Creadigol.
y Prosiect
Ysbrydolaeth
Wedi’i ysbrydoli gan brosiect yn yr Almaen yn 2015 lle cymerodd cerddorfa ffilharmonig breswyliaeth mewn ysgol gyfun leol, yn gynnar yn 2020 partnerodd Ensemble Cymru gydag Ysgol Tudno gyda’r bwriad o sefydlu preswyliaeth dros gyfnod parhaus. Eu nod oedd defnyddio dulliau Kodály a Dalcroze fel modd o gyflwyno cerddoriaeth siambr i blant ifanc ac fel tîm i ymsefydlu ym mywyd yr ysgol ac adeiladu pontydd i’r gymuned y tu hwnt.
Gweithgareddau
Blwyddyn 5 (oedran 9-10)
Canolbwyntiodd y cerddorion proffesiynol yn bennaf ar Flwyddyn 5, a chynhaliodd yr arbenigwyr mewn addysg gerddorol sesiynau wythnosol ar gyfer plant yn y Cyfnod Sylfaen, a’r plant sy’n mynychu’r grŵp cyn-ysgol. Bu cyfleoedd hefyd i holl ddisgyblion yr ysgol ryngweithio gyda’r cerddorion siambr, y cyfansoddwr a’r ymarferydd wrth iddynt dreiddio’n raddol i gymuned yr ysgol.
‘Mi wnes i chwarae alaw werin Ffrengig syml iddyn nhw ac wedyn fe wnaethon nhw glapio iddi a sylwi ar ddeinameg a thempo. Hefyd, chwaraeais darantela ac roeddent yn rhyngweithiol â’u hymatebion i’r tempo a’r ddeinameg. Cafwyd llawer o gwestiynau gwych a siarad am wahanol gyfansoddwyr a darnau enwog eraill o gerddoriaeth ar gyfer y cello’.
Ensemble Cymru, 2020
Yn unol â chanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol, llwyddodd Ensemble Cymru, mewn partneriaeth â’r ysgol i fynd i’r afael â gwybodaeth, sgiliau a galluoedd yn eu gwaith. Cyflwynwyd amrywiaeth o offerynnau i’r disgyblion gan gynnwys y cello, clarinét, telyn a phiano a chyfansoddwyr gan gynnwys Beethoven a Bach. Ymhlith y sgiliau craidd, pwysleisiwyd pwysigrwydd chwilfrydedd, meddwl yn feirniadol, meithrin dychymyg a’r synhwyrau; mae hyn yn arwain at ymgysylltiad uchel a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth fel dull o gyfleu syniadau ac emosiynau.
‘Roeddent yn ddychmygus iawn gyda’u syniadau. Rwy’n falch iawn bod llawer o’r plant yn rhagweithiol yn y sesiwn gyda’u cwestiynau a’u sylwadau. Roeddwn yn teimlo ein bod ni i gyd yn bwydo oddi ar ein gilydd ar adegau ’
Ensemble Cymru, 2020
Ymateb i anghenion a diddordebau’r plant
Defnyddiodd tîm Ensemble Cymru ynghyd â’r athro arweiniol ddull ymholi-proffesiynol wrth gynllunio’r gwaith. Roedd ganddyn nhw nod i’w gyrraedd, perfformiad ar ddiwedd y prosiect, ond bu’r gwaith yn hyblyg a oedd yn caniatáu i’r tîm ymateb i anghenion a diddordebau’r plant. Wrth i ddealltwriaeth a gwybodaeth y disgyblion gynyddu neu wrth i’w chwilfrydedd gael ei danio, llwyddodd aelodau’r tîm i addasu er mwyn annog a chefnogi’r unigolion. Yn aml, caniataodd y dull hwn iddynt greu cysylltiadau â meysydd eraill o’r cwricwlwm, er enghraifft penderfynodd aelodau dosbarth Blwyddyn 5 y dylai dau ddarn fod yn seiliedig ar stori Gelert a chipiodd y tîm ar y cyfle hwnnw i archwilio diwylliant a thraddodiadau Cymru fel rhan greiddiol o’r prosiect.
‘Gan barhau â stori Llywelyn a Gelert, y tro hwn y ddau gymeriad, Gelert a’r blaidd yn ymladd ei gilydd; “Taranau a mellt wrth weld ei gilydd”. Cyflym, uchel, cyffrous a dramatig. Yn uchel; mawr; defnyddio ewinedd i greu glissandos; cello: pluo’r tannau ger y pegiau tiwnio fel glawog neu flaidd ar flaenau ei draed’.
Ensemble Cymru, 2020
Blwyddyn 1 (oedran 5-6)
Mewn sesiwn arall, gydag aelodau’r Flwyddyn 1af, creodd Ensemble Cymru gysylltiadau gyda’r tywydd. Gofynnwyd i’r disgyblion ystyried os oeddent yn credu bod y gerddoriaeth (Gaeaf) yn debyg i storm neu wrth iddynt nodi mathau eraill o dywydd yn y darn, fe gafwyd synau taranau, mellt a’r haul. Roeddent hefyd yn cydnabod newidiadau mewn dynameg o uchel i dawel.
‘Gofynnodd y Pennaeth am ail berfformiad ar ôl holi rhai o’r plant am beth yr oeddent wedi’i glywed. Roedd llawer o’r plant iau yn meddwl bod synau’r “boingy” y delyn yn wirioneddol
Ensemble Cymru, 2020
5 Ffordd i Les
Bu symudiad corfforol a lles yn nodweddion allweddol yn y prosiect hwn hefyd, gyda’r model ‘5 ffordd i les’ yn cael ei ddefnyddio gan y tîm fel arf cynllunio. Dechreuwyd sesiynau gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen gyda gweithgareddau amser cylch i greu hinsawdd gadarnhaol a meithrin ymddiriedaeth. Anogwyd y disgyblion i symud i sain y gerddoriaeth ac mewn un sesiwn gofynnwyd iddynt wrando’n ofalus ar y darn piano a chaniatáu i’w traed gopïo’r hyn yr oedd y gerddoriaeth yn ei wneud. Llwyddodd y plant i ystyried y tempo ac ymateb gyda chamau araf, cerdded neu redeg.
Datblygwyd y dull arloesol hwn sy’n canolbwyntio ar y disgyblion ymhellach gydag aelodau dosbarth Blwyddyn 5 yn comisiynu darn o gerddoriaeth a oedd yn seiliedig ar thema o’u dewis hwy. Fe wnaethant benderfynu dewis y thema ‘anifeiliaid’. Y mae Cyngor yr Ysgol wedi cael rôl ganolog fel llywodraethwyr a gwerthuswyr y prosiect hwn hefyd, gan roi cyfrifoldeb gweithredol iddynt gyda chefnogaeth staff yr ysgol ac Ensemble Cymru.
Y cyfuniad hwn o gynllunio yn y maes dysgu, gan gynnwys themâu trawsbynciol, gyda ffocws ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad a sicrhaodd fod y gwaith yn mynd i’r afael â’r pedair amcan mewn dull dilys ac ystyrlon.
Adborth a Chynllunio Parhaus drwy dechnoleg
Llwyddodd y tîm i wneud hyn yn effeithiol trwy gydweithrediad cadarn a chyfathrebu yn rheolaidd sydd wedi cynnwys dull o weithredu’n ofalus a myfyriol. Er mwyn cyfuno amserlenni pawb, maent wedi defnyddio Microsoft Teams fel llwyfan ar gyfer deialog, adborth a chynllunio parhaus. Caniataodd hyn i bawb a oedd yn ymwneud â’r cynllun i weithio’n ailadroddol, a chael cynllun bras o’r nodau pennaf ond yr hyblygrwydd hefyd i newid cyfeiriad os nad oedd rhai elfennau’n gweithio neu os oedd angen strategaeth wahanol ar gyfer y disgyblion.
Yr ysgol fel cymuned
Cyfarfu’r tîm â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn gynnar yn y prosiect i drafod y gwaith, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n rhan o addysg eu plant a bod ganddynt ddealltwriaeth o’r nodau tymor-hir. Mae’r tîm hefyd wedi ymgysylltu â phob aelod o gymuned yr ysgol gan gynnwys y staff amser cinio.
Yn y Gwanwyn, amharodd Cofid-19 ar y prosiect ac yn anffodus, daeth y gwaith o sefydlu cyswllt cymunedol i ben. Fodd bynnag, ym mis Hydref, llwyddodd y tîm i ail-gychwyn y gwaith mewn modd gwahanol. Er na lwyddodd Ensemble Cymru i ail-gychwyn eu preswyliaeth yn y cnawd, maent wedi dechrau gweithio gyda’r disgyblion eto drwy gyfrwng sesiynau rhithiol ac ar lwyfannau ar-lein. Fel rhan o’r dull ymholi-proffesiynol, maent wrthi’n cywain tystiolaeth o effaith y prosiect er mwyn llywio’r gwerthusiad terfynol a’r broses o ddysgu proffesiynol parhaus.
Meincnod ar gyfer partneriaethau arloesol
Yn ogystal, defnyddiodd staff yr ysgol a fu’n gweithio’n agos gyda thîm Ensemble Cymru y gweithgaredd hwn fel tystiolaeth o gyrraedd safonau proffesiynol gan eu bod yn ymateb i’r pum elfen, sef addysgeg, arweinyddiaeth, cydweithredu, arloesi a dysgu proffesiynol. Mae’r astudiaeth achos hon yn cyflwyno meincnodau ar gyfer partneriaethau diwylliannol ar gyfer ysgolion sydd yn arloesol ac o ansawdd uchel, sydd nid yn unig yn ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd a safonau proffesiynol ond sy’n sicrhau’r weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru drwy gyfrwng canu!
Am Ysgol Tudno
Ysgol Gynradd yn Llandudno yw Ysgol Tudno, gyda 208 o ddisgyblion ar y gofrestr. Maent yn awyddus i ddatblygu eu cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol gan eu bod yn ymwybodol nad oes gan lawer o’r disgyblion fynediad i’r maes dysgu hwn a phrofiad ohono y tu hwnt i’w haddysg ffurfiol. Mae’r ysgol hefyd yn cydnabod gwerth arbennig cwricwlwm celfyddydol cyfoeth fel ffactor hanfodol er mwyn cynyddu ymgysylltiad a gwella lles.
Am Ensemble Cymru
Ensemble Cymru yw’r prif grŵp perfformio cerddoriaeth siambr yng Nghymru gydag aelodaeth graidd o 16 o offerynwyr a chantorion. Sefydlwyd yr Ensemble yn 2002 a’i genhadaeth yw hyrwyddo diwylliant cerddoriaeth siambr Gymreig o bob cyfnod, ynghyd â cherddoriaeth siambr o bob rhan o’r byd, i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Am Tybed
Mae Tybed yn fenter ddielw wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru sy’n anelu at ailfeddwl addysg trwy arloesi a phartneriaethau. Ers ei sefydlu ym mis Mai 2020, mae’r cwmni wedi gweithio gydag ystod o sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys UNESCO, HundrED, IDEO ac Amazing People Schools. Maent hefyd wedi gweithio gyda House of Imagination i barhau’r sgwrs a ysgogwyd gan ymgynghoriad UNESCO am ‘Ddyfodol Addysg’ a, dylunio cyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein.
Sefydlwyd Tybed gan Nia Richards. Roedd Nia yn Arweinydd Rhanbarthol i’r rhaglen ddysgu greadigol genedlaethol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2015 a 2020. Mae uchafbwyntiau ei rôl yn cynnwys gweithio gyda dros 150 o ysgolion cynradd, uwchradd ac addysg arbennig ledled y rhanbarth i ddatblygu dulliau creadigol ac eang ar gyfer y cwricwlwm. Yn ogystal, cychwynnodd, broceriodd a dyluniodd raglen arweinyddiaeth genedlaethol gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Mae ganddi 13 mlynedd o brofiad fel pennaeth pwnc ac athrawes ysgol uwchradd ac addysg bellach, M.A. mewn Ymchwil Ymarferwyr ac mae hi’n aelod a chydlynydd ar gyfer y Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol. Mae hi hefyd yn Gymrawd Academi Frenhinol y Celfyddydau.
Papur diweddaraf: Richards, N. & Hadaway, S. (2020) ‘Inter-professionalism between teachers and creative practitioners: Risk, exploration and professional identity – learning in situ and the impact on practice.’ Practice: Contemporary Issues in Practitioner Education. http://dx.doi.org/10.1080/25783858.2020.1834824
E-Bost: nia.richards’at’tybed.wales
Trydar: @NiaRichards1 @TybedWales