Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru (Llandudno), yw’r prif grŵp perfformio cerddoriaeth siambr yng Nghymru gydag aelodaeth graidd o 20 o offerynwyr a chantorion. Fe’i sefydlwyd yn 2002 a’i genhadaeth yw hyrwyddo diwylliant cyfoes a threftadaeth cerddoriaeth siambr Gymreig, ynghyd â cherddoriaeth siambr o bob rhan o’ byd, i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Yn ystod y tymor 2017-18, teithiodd Ensemble Cymru gydag Opera Canolbarth Cymru yn ei gynhyrchiad o Eugene Onegin gan Tchaikovsky a chyda OPRA Cymru yn ei gynhyrchiad arobryn o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood. Perfformiodd gyda’r delynores ryngwladol Isabelle Moretti yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaernarfon ag ymgymerodd â dwy daith genedlaethol fel penllanw project dwy flynedd ar gerddoriaeth siambr i’r delyn a gyd-guradwyd gan ei brif delynores Anne Denholm a’i Gyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans.
Sefydlwyd Rhaglen Cyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru yn 2015. Yn dilyn ei lansiad, perfformiodd yr Ensemble yn y Llysgenhaty Prydain yn Berne, ac mewn lleoliadau yn Davos, Chur a Valais. Mae’r sefydliad yn datblygu cysylltiadau â Tsiena a pherfformiodd yn ddiweddar yn Shanghai a Hong Kong fel rhan o Genhadaeth Diwylliant a Masnach Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2017. Fe wnaeth cynhyrchiad Ensemble Cymru o Pedr a’r Blaidd gan Prokofiev yn 2014 gyrraedd dros 15,000 o bobl drwy ei daith genedlaethol a darllediadau ar S4C. Yn y cynhyrchiad a’r CD bu’r actor adnabyddus Rhys Ifans yn adrodd y stori yn Gymraeg.
Yn ystod 2019-2020, bydd Ensemble Cymru yn: teithio perfformiadau o gampwaith Schubert, ei Wythawd, a gomisiwn newydd gan y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf; gweithio gyda Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed; teithio gyda Opera Canolbarth Cymru (Tosca – Puccini) ag Opra Cymru (Un Nos Ola Leuad – Gareth Glyn). Mae’r Ensemble yn edrych ymlaen at fod yn rhan o brosiect mawr 3 blynedd Canfod y Gân arweinir gan Ganolfan Gerdd William Mathias fydd yn dod â phobl anabl a phobl ddi-anabl at ei gilydd i greu cerddoriaeth.