Mae gobaith newydd i gerddorion a chantorion llawrydd yng Nghymru y mae eu bywoliaeth wedi cael eu difetha gan y pandemig presennol.
Bydd dwy elusen gerddorol Gymreig yn codi arian i gefnogi perfformwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr cerdd i weithio gyda’u cymunedau lleol trwy gyfrwng cerddoriaeth. Gydag arian a godir, mae Ensemble Cymru ac Opera Canolbarth Cymru ynghyd â chymorth cantorion a cherddorion lleol yn gobeithio rhoi cerddoriaeth yn ôl yng nghalon cymunedau Cymru ’.
Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr
Mae’r rhaglen ‘Cerddoriaeth eich milltir sgwâr’ yn cynnig dyfodol mwy gobeithiol i gerddorion a chymunedau Cymru yn 2021. Cafodd Covid 19 effaith andwyol ar berfformwyr gyda theatrau wedi cau ers mis Mawrth a chyngherddau wedi’u gohirio tan Wanwyn 2021. Nid yw’r mwyafrif o gerddorion a chantorion wedi cael unrhyw waith yn ystod y naw mis diwethaf ac o ganlyniad yn wynebu gaeaf caled heb fawr o obaith am welliant i’r celfyddydau perfformio.
Dywed Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans:
“Mae effaith COVID-19 wedi bod yn ddinistriol i gerddorion Cymru – y mae llawer ohonynt wedi bod heb waith am dros 9 mis oherwydd cyfyngiadau ar berfformiadau byw. Sylweddolodd Ensemble Cymru ac Opera Canolbarth Cymru ei bod hi’n bryd gweithredu a chefnogi perfformwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr cerdd a thrwy eu cefnogi, gael effaith gadarnhaol ar bobl yn eu cymuned leol.
“Ers i ni lansio’r rhaglen, rydym wedi derbyn llu o syniadau arbennig gan gerddorion ledled Cymru i gefnogi pobl o bob oed a’u teuluoedd mewn pentrefi, cartrefi preswyl, ysgolion cynradd a hosbisau trwy gerddoriaeth.
“Po fwyaf o arian y byddwn ni’n ei godi, y mwyaf o berfformwyr y gallwn ni eu cefnogi, a pho fwyaf o brosiectau cerdd fydd yn digwydd ledled Cymru. Rydyn ni’n gwneud yr apêl hon i’r cyhoedd, os ydyn nhw’n gallu, i’n cynorthwyo ni i helpu cantorion, cerddorion a chyfansoddwyr trwy gyfrannu i’r ‘Rhodd Fawr’ (Big Give) rhwng 1af a’r 8fed o Ragfyr eleni’.
Ychwanegodd Lydia Bassett, Cyfarwyddwr Gweithredol Opera Canolbarth Cymru:
“Gyda chynifer o berfformiadau wedi’u gohirio, mae’n brofiad hynod o gadarnhaol cael siarad â pherfformwyr am waith y gellir ei gyflawni dan yr amodau presennol a gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau trwy ddod â phobl ynghyd trwy gyfrwng cerddoriaeth. Rydym yn awyddus i weld pa syniadau anhygoel y bydd ein perfformwyr yn eu cynnig ac rydym yn eiddgar i gychwyn y gwaith yn y Flwyddyn Newydd. “
Gall aelodau’r cyhoedd gynorthwyo a dyblu eu rhoddion drwy roi i Her Nadolig y ‘Big Give’ rhwng 12pm, 1af o Ragfyr 2020 a 12pm, 8fed o Ragfyr 2020