Llandudno 2005/6/7? ysgol gynradd… Aeth grŵp ohonom i mewn gyda Peryn i gyflwyno ein hofferynnau ac i chwarae rhywfaint o gerddoriaeth i rai o blant bach blwyddyn 2 neu flwyddyn 3 dwi’n meddwl. Pan ddaeth tro Patrick Broderick i gyflwyno’r corn Ffrengig, fe eglurodd i’r plant, er bod yr offeryn yn edrych yn gymhleth iawn, mewn gwirionedd, dim ond tiwb hir yn cyrlio rownd a rownd ydyw. Yna gofynnodd i’r plant, “Pe bawn i’n datod fy nghorn, pa mor hir ydych chi’n meddwl y byddai?”. Saethodd llaw un bechgyn i fyny ac awgrymodd, “Tua 10 munud.”
…Rwy’n meddwl am yr ateb hwnnw bob tro y gwelaf gorn ffrengig.
Wedi chwarae cyhyd gydag Ensemble Cymru, un o fy hoff bethau yw sylwi pa mor aml yr ydw i’n gweld pobl rydw i wedi chwarae gyda nhw yng Ngogledd Cymru pan fydda i’n gweithio gyda grwpiau eraill. O fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod ar y llwyfan gyda Patrick Broderick yn Neuadd Carnegie, Theatr Harris yn Chicago a’r Palau de la Musica yn Barcelona. Rydw i wedi chwarae gyda Florence Cooke mewn llawer o gyngherddau hyfryd, yr olaf ohonynt yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, ond ers hynny rydym hefyd wedi chwarae darnau ar ein cof yn y Proms (gyda Cherddorfa Aurora), wedi recordio crynoddisgiau o Gantatas Bach, a chwarae concertos Baróc gyda’n gilydd. Rydw i wedi chwarae rhan o repertoire cerddoriaeth siambr wych gyda Marcus Barcham Stevens yng Ngogledd Cymru ond mae Marcus a finnau hefyd yn chwarae cerddoriaeth siambr gyda’n gilydd ar offerynnau cyfnod. Rwyf wedi chwarae gyda Huw Clement Evans nifer o weithiau ym Mhwllheli, Bae Colwyn, Bangor a Chaergybi ond rwyf hefyd wedi chwarae gydag e yn Les Mis yn y West End. Y tro diwethaf i Anne Denholm a finnau chwarae gyda’n gilydd oedd mewn cyngerdd coffi yn Llandundno ond ers hynny rydym wedi chwarae yn y Concertgebouw yn Amsterdam, y Philharmonie ym Mharis ac ac mewn nifer o neuaddau harddaf yn Ewrop fel aelodau o’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique.
Oliver Wilson, fiola
Mae wedi bod yn hynod o hyfryd gweld y plant yn ymateb i gerddoriaeth mewn gwahanol ffyrdd yn ystod prosiect Ysgol Tudno. Mewn un sesiwn, eglurais iddynt fod cyfansoddwr yn debyg i arlunydd, ond yn hytrach na defnyddio lliwiau, rydym yn defnyddio cerddoriaeth i greu llun. Defnyddiwyd y symudiad stormus o Symffoni Rhif 6 gan Beethoven fel enghraifft. Erbyn yr wythnos ganlynol, roeddynt i gyd wedi mynegi drwy storïau, lluniau neu ddisgrifiadau, beth oeddent yn ei ddychmygu wrth wrando ar y gerddoriaeth! Am syrpreis arbennig i ni, ac am ymateb gwych gan y plant.
Un o’r nifer o bethau rwyf wedi eu mwynhau gyda phrosiect Ysgol Tudno oedd helpu’r plant i archwilio’r gwahanol elfennau mewn cerddoriaeth. Eu cyfrifoldeb nhw oedd comisiynu cyfansoddiadau byr oedd wedi eu hysbrydoli gan yr anifeilaid yn y Sŵ Fynydd Gymreig. Roedd hi’n wych gweld y plant yn defnyddio beth oeddent wedi ei ddysgu am ddeinameg, rhythm, tempo a thraw, a’u gweld yn mynegi eu syniadau yn hyderus wrth ofyn i mi gyfansoddi.
Mared Emlyn, cyfansoddwraig a thelynores
“Mae prosiect Ysgol Tudno ‘rhan 2-rithwir ’wedi bod yn daith i bawb a gymerodd ran. Mae hyd yn oed y plant wedi cael cyfle i ryngweithio yn rhithwir mewn cymaint o ffyrdd … gwrando ar gerddoriaeth fyw, gwylio fideos, sesiynau addysg gerddorol ryngweithiol a chomisiynu cyfansoddiadau. Mae’r comisiynau hyn yn cyd-fynd â Phum Ffordd at Les y GIG a’r anifeiliaid yn y Sw Mynydd Cymreig sy’n lleol iddyn nhw. Rhai o’m hoff eiliadau yw plant blwyddyn 5 yn gwneud eu band elastig a’u cerddorfa gorsen gan ddysgu am wyddoniaeth a sut mae offerynnau’n cynhyrchu sain. Hefyd pan fyddaf yn ymuno â chymuned yr ysgol gyfan ar fore Iau ac yn chwarae alawon gwerin byw o bedwar ban byd ac yn eu gwylio yn dawnsio, canu, clapio ac yn symud ymlaen …. yn gyffredinol, mae’n ddechrau hapus iawn i’r diwrnod!”
Nicki Pearce, sielydd a phrif gerddor prosiect Ensemble Cymru gydag Ysgol Tudno, Llandudno
“Rydw i mor falch o dîm addysg Ensemble Cymru! Dechreuodd ein prosiect gwych yn Ysgol Tudno, Llandudno mor dda yn gynnar yn 2020, ond daeth i stop yn sydyn ym mis Mawrth. Fe wnaethon ni gymryd peth amser i asesu’r sefyllfa, ac ailgychwyn yn rhithiol ym mis Medi. Mae staff yr ysgol a thîm Ensemble Cymru wedi bod yn cydweithio’n greadigol i sicrhau llwyddiant y prosiect. Mae gwaith tîm wedi ei gwneud hi’n bosibl i ni wneud cysylltiadau cerddorol ystyrlon gyda’r plant hyd yn oed trwy sesiynau rhithwir ac adnoddau fideo.”
Lucy Clement-Evans, prif ymarferydd addysg gerddoriaeth ar gyfer prosiect Ensemble Cymru gydag Ysgol Tudno, Llandudno.
“Mae hi wedi bod yn bleser o’r mwyaf cael creu cerddoriaeth gyda phlant sy’n rhoi o’u gorau a phlant egnïol unwaith eto! Mae diffyg cyswllt ac ysgogiad amrywiol wedi effeithio ar bob un ohonom trwy gydol y flwyddyn hon, ac mae prosiectau fel hyn yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles ni gyd. Pa mor syml yw chwarae ychydig o Bach, siarad am y bas dwbl a chlywed ffeithiau difyr ar lawr y dosbarth? Roedd hi hefyd yn llawer o hwyl i ddysgu curiad drwm iddyn nhw – Another One Bites The Dust gan Queen – er gwaethaf ymdrech Teams i geisio difetha’r parti ac oedi’r sain, fe wnaethom lwyddo i greu cerddoriaeth anhygoel gyda’n gilydd. ”
Martin Ludenbach, chwaraewr bas dwbl yn rhan o brosiect Ensemble Cymru gydag Ysgol Tudno, Llandudno.