Breuddwyd Radio Ensemble yw y bydd yn cynnig llwyfan sydd wir ei hangen i Gerddorion, Cyfansoddwyr, Ymarferwyr, Grwpiau Perfformio ac unigolion ac yn cynnig hwb gymdeithasol ddwyieithog sydd wir ei angen i’r gymuned.
Mae gorsafoedd radio cymunedol mewn lle unigryw yn eu cymunedau eu hunain i wneud gwahaniaeth i’r gymdeithas y maen nhw’n ei gwasanaethu. Bydd gorsaf radio cymunedol Ensemble yn mynd yn fyw fel ‘peilot’ ar 22 Mawrth 2021 yn Ysgol Tudno, gan alluogi dilynwyr Ensemble Cymru a theuluoedd Ysgol Tudno i fynd ar y tonfeddi ac i fanteisio ar y cyfleoedd cymdeithasol sy’n deillio o hynny.
Mae Radio Cymunedol yn gallu cyrraedd y rhai ynysig, y rhai sydd wedi mynd yn angof a’r rhai ar yr ymylon. Mewn geiriau eraill – Radio cymunedol yw’r hyn sy’n digwydd pan mae nerth pobl yn cyfarfod nerth y tonfeddi!
Gall Radio Ensemble ffynnu fel adnodd gwerthfawr, effeithiol i gymdogaeth ; mae angen eich cyfraniad chi:
Allwch chi gyflwyno Radio Ensemble naill ai i grwpiau eraill rydych chi’n rhan ohonyn nhw neu i unigolion rydych chi’n eu hadnabod?
Ydych chi’n Gerddor, Perfformiwr, Ymarferydd sy’n chwilio am gyfle i godi’ch proffil?
Darlledwyr, cynhyrchwyr a newyddiadurwyr sy’n gwirfoddoli. Ydych chi’n adnabod unrhyw dalent allai fod yn cuddio yng nghysgodion y gymuned?
Mwy o gefnogaeth a chymorth. Dylai grwpiau cymunedol helpu ei gilydd. Rhyngom, mae’n debyg fod gennym fynediad at bron iawn bopeth.
Diddordeb lleol: Allwch chi ein helpu i ymestyn allan i’r gymuned, i ddadorchuddio hanesion syfrdanol o fuddugoliaeth ddynol, personoliaethau lleol sy’n gallu swyno ein cymuned?
Sgiliau gwell: Oes gennych chi sgiliau a phrofiad i’w rhannu gyda ni?
Beth yw radio cymunedol?
Rhan yw Radio Cymunedol o’r sector cyfryngau “anfasnachol”, sy’n golygu fod perchnogion unigol yn gweithredu ni er elw. Yn hytrach, mae gorsafoedd radio cymunedol yn cael eu gweithredu er budd y gymuned leol.
Gwirfoddolwyr a’r gymuned leol sy’n darparu rhaglenni lleol i radio cymunedol. Maen nhw’n rhoi mynegiant i’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu ac yn gallu cael amrywiaeth eang o raglenni, o sgwrsio, i gerddoriaeth, eiriolaeth, newyddion a rhaglenni diwylliannol.
Dyma ddolen i un radio’r rhyngrwydhttps://www.bbc.co.uk/sounds/play/live:bbc_radio_three