Fel darparwyr addysg, rydym yn sylweddoli pwysigrwydd y celfyddydau creadigol a’u lle mewn datblygiad disgyblion a gan weithio ochr yn ochr â rhan ddeiliaid eraill, ein nod yw cyfoethogi’r cyfleoedd a ddarparwn fel ysgol. Trwy brofiadau amrywiol, gwerth chweil, gobeithiwn datblygu dinasyddion y dyfodol. Trwy gyfleoedd creadigol y mae plant yn dysgu i fynegi eu hunain a deall eu lle yn y byd. Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn darparu digon o gyfle i ddatblygu meysydd cwricwlaidd mewn modd diddorol a chreadigol. Gwerthfawrogir celfyddyd hefyd fel cyfrwng i sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei botensial unigol gan ei fod yn torri i lawr y rhwystrau a grëir gan anghenion dysgu ychwanegol ac yn greiddiol mewn cynyddu ymgysylltiadau a gwella lles. Mae gwerth y cyfleoedd mae’r disgyblion wedi ’w derbyn drwy’r prosiect hwn yn amhrisiadwy!
Bu i’r disgyblion gael ei ysbrydoli trwy ymgysylltu hwyliog ond heriol â cherddoriaeth, gan fagu eu hyder wrth wrando a pherfformio ac archwilio eu posibiliadau arloesol. Roedd gwrando ar y perfformiadau amrywiol yn galluogi plant i brofi llu o gyfryngau, datblygu sgiliau meddwl annibynnol a sgiliau iaith mynegiannol. Mae ysgogi bywydau pobl drwy’r celfyddydau wedi rhoi cyfle i’r disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol, weld a gwrando ar waith celfyddydol a rhannu safbwyntiau newydd. Mae hyn wedi codi brwdfrydedd yn y disgyblion sydd yn aml wedi arwain at waith dosbarth pellach. Mae awydd y disgyblion yn amlwg wrth iddynt gyfleu negeseuon am eu profiadau yn ôl i rieni a gofalwyr gartref.
Mae’r rhan diweddaraf o’r prosiect, sef radio Ensemble Cymru, wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r prosiect yn ei gyfanrwydd. Mae’r plant wedi mwynhau yn fawr cael y cyfle i greu a recordio deunydd ar ei gyfer ac er ei fod wedi bod ychydig yn anodd i’w drefnu ynghanol y cyfnod clo roedd yn golygu eu bod nid yn unig yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol ond sgiliau digidol hefyd. Mae rhieni hefyd wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohono drwy wrando ar y darllediadau dyddiol, gyda rhai yn gwrando nifer o weithiau mewn diwrnod. Medd Mrs. Iona Hughes, Prifathrawes Ysgol Tudno “ Mae’r cydweithio a’r gwaith blaenorol wedi cael effaith bositif ar hyder y disgyblion a hynny wedi dangos yn ei parodrwydd i gymryd rhan a gwneud defnydd o’i sgiliau technolegol. Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i’r disgyblion hynny sydd a diddordebau gwahanol serennu oherwydd ‘gyda’n gilydd dysgwn ddisgleirio.’ “
Mae’r prosiect ar ei gyfan wedi bod yn rhan annatod o’n datblygiad o’r ‘Cwricwlwm i Gymru’ ac wedi datblygu ein dysgwyr yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes, yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith, yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus ac yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.