Hanes Cerddoriaeth Siambr yng Nghymru

Picture of Wyn Thomas

Pan ddaeth yr ail-ddeffroad cerddorol yng Nghymru ar ddechrau’r 19eg ganrif, perfformiadau lleisiol a geid yn bennaf, ynghyd â chystadlaethau eisteddfodol a datblygiadau o bwys mewn cerddoriaeth gorawl. Yn ystod oes Fictoria, celfyddyd wladaidd yn bennaf oedd cerddoriaeth, y byddai teimladau crefyddol, cymdeithasol a chenedlaethol yn cyfrannu ati. Fodd bynnag, ei chyfyngiadau oedd yr agwedd waethaf ar y gelfyddyd honno.

Perthynai cerddoriaeth offerynnol ddifrifol, cerddoriaeth siambr a chynnyrch symffonig i ryw blaned arall, ac nid oedd ganddynt le ym maes cerddoriaeth yng Nghymru hyd nes i welliannau mewn addysg gerddorol a chefnogaeth noddwyr ar droad yr 20fed ganrif roi cychwyn o ddifrif ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru, gan ehangu gorwelion cerddorol, nes gweddnewid bywyd cerddorol i filoedd o bobl ar draws y Dywysogaeth.

Pan grëwyd ensembles siambr ym Mhrifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Bangor yn yr 1920au, pan sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Cymru (1928), Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (1936) ac Adran Gerddoriaeth y BBC yng Nghaerdydd (diwedd y 1930au) gyda’i rhaglen ddarlledu eang, enynnwyd diddordeb heb ei ail mewn cerddoriaeth offerynnol (siambr a cherddorfaol). Datblygodd repertoire mwy amrywiol gan gyfansoddwyr megis Mansel Thomas (1909-86), Arwel Hughes (1909-91), Grace Williams (1906-77), Daniel Jones (1912-92), William Mathias (1934-92) ac Alun Hoddinott (1929-2008), yn ogystal â chan nifer o gerddorion y genhedlaeth iau (yn frodorion ac yn fewnfudwyr i Gymru), sydd wedi arbrofi gyda’r berthynas rhwng y clasurol a’r poblogaidd yng Nghymru ac ar raddfa fyd-eang o fewn ystod lawn datblygiadau rhyngwladol.

©Wyn Thomas, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor