Blwyddyn newydd, ffordd newydd o weithio!

Ar fore dydd Mercher, ar ôl gadael dau o blant yn saff yn yr ysgol, teithiais i Ganolfan Gymunedol Millbank yng Nghaergybi. Roeddwn i ar y ffordd i “Little Pods Parent and Toddler Group” i weld os oes modd iddyn nhw ac Ensemble Cymru cyd-weithio â datblygu perthynas.

Treuliais awr a hanner hyfryd yn sgwrsio gyda’r rhieni, yn chwarae gyda’r plant ac yn darganfod mwy am y grŵp gan Louise, trefnydd y grŵp. Mae cychwyn prosiect yn y ffordd yma yn hollol newydd i mi, ac yn teimlad braf. Dim llwybr clir wedi ei osod allan, ond awydd cyffredinol i gydweithio i ddatblygu rhywbeth i’r plant, ac efallai’r oedolion.

Rydym wedi penderfynu mai’r cam cyntaf ar ein taith yw i mi ddychwelyd wythnos nesaf i roi cynnig ar rai gweithgareddau cerddorol gyda’r plant. Cadwch lygad yn ar y safle we i weld beth sy’n digwydd nesaf!


Rydym yn ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol a ddosranwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru; ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies am ei gefnogaeth yn ogystal â’r nifer mawr o unigolion rhyfeddol sy’n parhau i gyfrannu mor hael i’n gweithgareddau.