Rydw i wedi bod yn gweithio gydag Ensemble Cymru er 2015, yn cefnogi Peryn a’i dîm i ddiweddaru a gofalu am eu gwefan. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda sefydliad mor greadigol a brwdfrydig.
Mae rhan enfawr o waith Ensemble Cymru yn ymwneud â dod â chymunedau Cymreig at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth ragorol, cynyddu lles a galluogi newid cadarnhaol… ac mae’r ymrwymiad hwnnw’n ymestyn i’n gwefan. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad i’n gwefan, felly rydyn ni wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn gweithio ar wefan wedi’i hailgynllunio sydd â mynediad yn ganolog iddi.
Beth yw hygyrchedd y we a pham ei fod yn bwysig?
Hygyrchedd y we yw’r broses o sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu cynnwys gwefan, pa bynnag rwystrau y gallent eu hwynebu. Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu cyfyngu gan dechnoleg: efallai bod ganddynt Ryngrwyd araf, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel gogledd Cymru, neu efallai eu bod yn defnyddio cyfrifiadur hŷn sy’n rhedeg hen feddalwedd.
Efallai y bydd gan rai pobl heriau corfforol. Efallai y bydd defnyddwyr yn defnyddio ffon geg i weithredu eu bysellfwrdd cyfrifiadur neu feddalwedd olrhain llygaid. Efallai y byddai’n well gan eraill ddefnyddio’r bysellfwrdd oherwydd eu bod yn cael trafferth dal a phwyntio llygoden yn gywir, neu efallai bod ganddynt olwg gwan a bod angen testun clir mawr arnynt. Efallai bod testun pinc llachar ar gefndir porffor yn edrych yn andros o dda, ond byddai’n hollol annarllenadwy! Mae pobl eraill yn cyrchu cynnwys gwe gyda darllenydd sgrin sy’n darllen yn uchel y testun sydd ar eu sgrin, tra bod defnyddwyr byddar neu drwm eu clyw yn dibynnu ar drawsgrifiadau o gynnwys sain neu fideo.
Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y wefan yn gweithio i’r rhai sy’n defnyddio’r ffôn clyfar diweddaraf gyda’i sgrin gyffwrdd, synhwyrydd golau, accelerometer, ID wyneb a mwy! Mae gan lawer o ffonau modern nodweddion hygyrchedd wedi’u hymgorffori nawr hefyd, fel rhaglen darllen sgrin VoiceOver Apple neu Siri sy’n rhoi gorchmynion wedi’u hysgogi gan lais.
Y peth allweddol wrth ddylunio ar gyfer hygyrchedd yw cadw ein defnyddwyr mewn cof bob amser. Rhaid bod modd defnyddio ein gwefan p’un a yw ein defnyddwyr yn defnyddio monitor sgrin lydan ffansi, neu ffôn clyfar sy’n gwneud popeth. Rhaid i’r cynnwys wneud synnwyr o hyd wrth edrych arno ar y fersiwn testun mwyaf sylfaenol neu pan fydd yn cael ei gyrchu gan ddefnyddio darllenydd sgrin (sy’n darllen y cynnwys yn uchel ar gyfer defnyddiwr â nam ar ei olwg).
Felly beth ydym ni wedi ei wneud?
Dyluniad Gweledol, Lliw a Chyferbyniad
Mae’r canllawiau hygyrchedd yn chwarae rhan ddiddorol yn y broses greadigol. Fe wnaethom archwilio cyfuniadau lliw sydd â chyferbyniad digonol. Mae’r palet beiddgar a ddewiswyd yn pasio’r gwerthoedd hygyrchedd trothwy ac yn adlewyrchu’r bywiogrwydd a’r angerdd sy’n gynhenid yn y sefydliad bach hwn.
Tudalennau Ymatebol
Un o’r pethau pwysig i’w gofio am hygyrchedd yw y bydd llawer o bobl ag anabledd yn defnyddio’r un dechnoleg â phawb arall, ond byddant yn ei defnyddio mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Wrth i bobl bori’r rhyngrwyd ar ystod eang o ddyfeisiau symudol, mae dylunwyr gwe yn creu gosodiadau ymatebol fel mater o drefn: rydym yn dylunio ein tudalennau fel eu bod yn ymateb i wahanol feintiau sgrin a chydraniadau, gan ymestyn, lleihau ac ad-drefnu elfennau cynnwys yn unol â hynny. Yn ogystal â phrofi ar sgriniau o wahanol led, rydym ni hefyd yn newid maint y testun ac yn profi gwahanol gyfuniadau o faint ffontiau a sgrin i sicrhau nad yw ein cynlluniau yn torri a bod y cynnwys yn hawdd ei ddarllen.
Llygoden, Bysellfwrdd neu Gyffwrdd
Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod pob defnyddiwr yn gallu rhyngweithio â chynnwys. Mae llawer o ddyfeisiau modern yn cynnwys sgriniau cyffwrdd yn ogystal â chliciau llygoden a rheolyddion bysellfwrdd mwy traddodiadol. Gall ein holl ddefnyddwyr lywio trwy elfennau rhyngweithiol (cysylltiadau, botymau, cofnodion mewn ffurflenni ac ati) a dewis ac actifadu’r elfen yn ôl yr angen.
Delweddau a Thestun Amgen
Ar gyfer defnyddwyr ag anableddau gweledol neu wybyddol gall testun amgen (a elwir yn destun alt) eu helpu i ddeall ystyr neu swyddogaeth delwedd. Trwy gynnwys testun alt ar ein delweddau, bydd darllenydd sgrin yn darllen y testun alt sy’n disgrifio’r ddelwedd i’r defnyddiwr.
Meeting Web AccBodloni Safonau Hygyrchedd y We
Er mwyn mesur hygyrchedd y Rhyngrwyd, datblygwyd set o safonau. Fe’i gelwir yn ‘Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We’ neu WCAG. Rydym wedi penderfynu defnyddio Safon dwbl-A WCAG i arwain y gwaith ailgynllunio a byddwn yn cynnal archwiliad WCAG i sicrhau bod pob rhan o’r wefan yn bodloni’r safonau hyn, gan wneud gwefan Ensemble Cymru yn hygyrch i’n holl ddefnyddwyr.
Mae sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at waith Ensemble Cymru yn bwysig iawn i ni – rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu mynediad a chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag mwynhau cerddoriaeth, creadigrwydd a chydweithio ledled Cymru. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r wefan newydd, ac os oes gennych unrhyw adborth ar gael mynediad i’n gwefan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, ac os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am hygyrchedd ar gyfer dylunio gwefannau, gellwch ddarllen blog llawn Kate yma:
flyingziggy.co.uk/accessibility/access-all-areas/
Rydym ni’n mor ddiolchgar i’r canlynol am ein galluogi ni i wneud ein safle we yn hygyrch oherwydd eu cefnogaeth:
- Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o gronfa adfer i helpu i sector y celfyddydau yng Nghymru barhau yn ystod y pandemig ac i ddod allan o’r pandemig gyda’r gallu i gyflawni dyheadau’r cytundeb diwylliannol
- Rhoddwyr a chefnogwyr unigol Ensemble Cymru