Gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, mae Ensemble Cymru yn cefnogi Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100. Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gan Tia a Harry – dau fyfyriwr cerdd o Brifysgol Bangor sydd wedi ymuno â ni am 6 wythnos, fel rhan o’r Rhaglen Cyflogadwyedd. Maent wedi bod yn ein helpu drwy hyrwyddo, perfformio a rheoli digwyddiadau. Diolch yn fawr iawn i’n cefnogwyr sy’n gwneud cyfleoedd fel hyn yn bosibl… Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR i Tia a Harry am eu hegni a’u brwdfrydedd.
Deuddydd ym mywyd Tia a Harry!
Dydd Gwener 11 Mawrth.
Roedd yn arbennig gweld cyn nifer o bobl yn mynychu cyngerdd John Hywel yn Neuadd Powis ddydd Gwener, fel rhan o ddathliadau Bangor 100. Fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, roedd yn gyfle gwych i glywed gan Benaethiaid Cerdd presennol y Brifysgol, a chyn-benaethiaid yr adran hefyd. Roedd clywed John Hywel yn trafod ei brofiadau ac yn sôn am gerddoriaeth yn ysbrydoledig tu hwnt.
Gan fod cymaint o bobl wedi mynychu’r cyngerdd, roedd yn gyfle gwych i ni, o safbwynt blaen y tŷ, i reoleiddio nifer y bobl yn y neuadd. Roedd cael bod yn rhan o’r cyngerdd hwn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu a threfnu ymhellach. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gymorth a help gan fyfyrwyr a staff y brifysgol, a oedd wedi ein helpu i gadw’r digwyddiad dan reolaeth drwy gydol y noson. Roedd yn wych cael gweithio gyda cherddorion Ensemble Cymru wrth addasu i’w hanghenion ar y llwyfan. Mae hyn wedi ein helpu i ddatblygu ein sgiliau datrys problemau.
Dydd Sadwrn 12 Mawrth
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod llawn hwyl yn creu cerddoriaeth. Gwahoddodd Ensemble Cymru gerddorion o ledled Cymru i ymuno â sesiwn cyd-chwarae, er mwyn ymarfer a pherfformio La Création Du Monde (darn o gerddoriaeth wedi’i ysgrifennu dros 100 mlynedd yn ôl) mewn prin tair awr!
Roedd yn wych gweld cymaint o aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan. Mae helpu i drefnu’r digwyddiad hwn wedi ein helpu i sylweddoli faint o amser ac ymdrech sydd ei angen i sefydlu digwyddiad o’r fath. Roedd trefnu’r digwyddiad hwn yn cynnwys cyfathrebu â gwahanol adrannau yn y brifysgol, o Pontio, i’r adran gerddoriaeth a gwasanaethau’r campws.
Roedd yn wych gweld cyn nifer o fyfyrwyr y Brifysgol yn cymryd rhan, yn cyd-chwarae â cherddorion proffesiynol ac yn cael adborth ganddynt. Cyfansoddwyd y darn a berfformiwyd (La Création Du Monde gan Darius Milhaud) 100 mlynedd yn ôl, a oedd yn cyd-fynd yn daclus gyda thema canmlwyddiant eleni.
Roedd y ddau ddiwrnod yn hynod lwyddiannus, ac yn fan cychwyn da i ni ddysgu a deall sut i drefnu digwyddiadau eraill yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyngherddau Mozart yng Nghonwy a Chilcain ar y 20 a 21 o Fawrth.
Tia Weston
Harry Pascoe