Harry Pascoe ydw i, ac rwy’n fyfyriwr Cerddoriaeth yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Fy mhrif offeryn yw’r Trombôn, fodd bynnag, rwyf wedi chwarae’r rhan fwyaf o offerynnau pres dros fy nghyfnod mewn ensemblau amrywiol. Dechreuais ar y cornet yn chwarae yn fy Mand Pres lleol yng Nghernyw pan ro’n i’n 8 oed, gan symud ymlaen at y trombôn yn y pen draw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.
Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gymryd rhan yn y rhan fwyaf o ensemblau yn y brifysgol, gan amrywio o’r Band Jazz newydd, i Gerddorfa’r Gymdeithas Gerddoriaeth, yn ogystal â Band Pres y Brifysgol. Heblaw am berfformio yn yr ensemblau hyn, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas Gerddoriaeth, a fi yw trysorydd y Band Pres hefyd ar hyn o bryd. Mae’r rolau hyn wedi rhoi cyfle imi ddatblygu fy sgiliau arwain, ac wedi fy ngalluogi i weld sut mae ensemblau’n gweithio o’r tu mewn, nid eistedd ar lwyfan a pherfformio’n unig.
Eleni, rwyf bellach yn rhan o Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol, lle rwy’n helpu i gynorthwyo gyda gwaith bob dydd y gerddorfa, o bennu gosodiad y llwyfan gyda rheolau Covid i reoli tîm o swyddogion cymorth yn helpu gyda’r cyngherddau. Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi gael blas ar reoli llwyfannau a rheoli digwyddiadau, sy’n agor drysau i mi o ran llwybrau gyrfa posibl.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag Ensemble Cymru a gwella a dysgu sgiliau newydd a fydd yn fy helpu i gael cipolwg gwirioneddol ar sut mae rheoli blaen y tŷ a llwyfan yn gweithio.
Mae rhaglen cyflogadwyedd Bangor 100 Ensemble Cymru yn bosib drwy gefnogaeth Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones a chefnogwyr Ensemble Cymru