Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100 – Blog Tia

Tia Weston ydw i, ac rwy’n fyfyriwr Cerddoriaeth yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Yno, rwy’n astudio ystod o fodiwlau gan gynnwys cyfansoddi a theori cerddoriaeth, ac mae fy mhrif ddiddordeb mewn perfformiad. Cefais fy ngeni yn Y Barri, De Cymru, a byw yno drwy gydol fy mywyd nes i mi ddewis symud i Ogledd Cymru ar gyfer fy ngradd israddedig. Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl a bu i astudio ym Mhrifysgol Bangor roi cyfle imi ddilyn fy angerdd dros gerddoriaeth ac astudio yn y Gymraeg. Gartref, rwyf wedi tyfu i fyny yn rhan o fandiau pres, gan ddechrau pan ro’n i’n 6 mlwydd oed, ym Mand Pres Bro Morgannwg, ac ers hynny rwyf wedi chwarae gyda bandiau megis Tylorstown a Deiniolen yn fwy diweddar. Fy mhrif offeryn yw’r Flugelhorn, ond rwyf hefyd yn canu’r Trymped, y Cornet, a’r Corn Tenor, ac rwyf hefyd wedi ennill llawer o wobrau am chwarae’r Flugelhorn.

Wrth fynd i Brifysgol Bangor, rwyf wedi cymryd rhan weithredol mewn sawl cymdeithas gerddoriaeth, gan gynnwys Cerddorfa’r Gymdeithas Gerddoriaeth, Band Pres (BUBB), Band Cyngherddau a’r Band Jazz. Yn y cymdeithasau hyn, mae gen i swyddi allweddol ar y pwyllgor megis Cynrychiolydd y Gymraeg (ym mhob un), Llyfrgellydd (BUBB) a Thrysorydd (Band Jazz), sy’n golygu fy mod yn aelod gwerthfawr o bob cymdeithas.

Rwyf hefyd yn rhan o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor, lle rwyf wedi perfformio symffonïau megis Bizet Overture: Carmen. Wrth gymryd rhan yn y Gerddorfa Symffoni, rwyf wedi chwarae rhan allweddol yn rheoli’r elfen Covid mewn cyngherddau, a sicrhau bod ymarferion yn ddidrafferth wrth ddilyn canllawiau Covid.

Yn ystod fy nghyfnod gydag Ensemble Cymru, rwy’n edrych ymlaen at ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol megis gweithio ym mlaen y tŷ, codi arian a hyrwyddo.


Mae rhaglen cyflogadwyedd Bangor 100 Ensemble Cymru yn bosib drwy gefnogaeth Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones a chefnogwyr Ensemble Cymru.

Cerddoriaeth 100 Prifysgol Bangor