Ensemble Cymru, ensemble preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru, Llandudno, yw’r grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw sy’n perfformio yng Nghymru.

Mae ein tîm craidd o 16 o gerddorion a chantorion gyda’i gilydd yn cyflwyno cerddoriaeth ragorol, ac yn diddanu, dysgu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd, ysgolion, cymunedau, disgyblion a darpar gerddorion. Rydym yn teimlo’n frwd dros gerddoriaeth, treftadaeth gerddorol Cymru a’r cymunedau rydym yn gweithio â nhw ac ar eu cyfer.

Wedi ein sefydlu fel elusen yn 2002, ein nod yw cadw, denu a datblygu talent yng Nghymru i gyd-greu cerddoriaeth ragorol a phrofiadau sy’n uno cymunedau Cymru.

Ein Cerddorion / Ein Tîm

Cerddoriaeth Siambr yng Nghymru

Rydym yn angerddol dros gerddoriaeth siambr a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gyda ffurf ar gelfyddyd yr ydym yn credu ei bod yn eithriadol.

Tyfodd y syniad am Ensemble Cymru o berfformiad o gerddoriaeth siambr a gynhaliwyd ym mhentref Cilcain yng ngogledd Cymru i godi arian at newyn yn Affrica ym 1993. Tyfodd a datblygodd y syniad gan fynd trwy gyfres o enwau nes sefydlu’r elusen yn 2002.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu doniau yng Nghymru. Yn aml iawn mae pobl yn teimlo mai dim ond mewn dinasoedd mawr y gall cerddoriaeth neu gelfyddyd ragorol fodoli. Rydyn ni’n meddwl yn wahanol. O seilio ein ensemble yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru, mewn canolfannau yng Nghymru gyda cherddorion sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru ac sy’n angerddol drosti.

Bob mis, byddwn yn rhannu blog gan ein cymuned o gerddorion, cefnogwyr, ac aelodau’r gynulleidfa.

Rydym yn perfformio ledled Cymru mewn lleoedd a mannau hyfryd….

Canolfan Ucheldre Caergybi – credyd llun Wikimedia Commons