Ein hangerdd

Rydym yn angerddol dros gerddoriaeth siambr a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gyda ffurf ar gelfyddyd yr ydym yn credu ei bod yn eithriadol.

Ein dyhead yw bod yn ensemble o’r safon uchaf bosibl, a gweithio’n rhyngwladol, ond gyda’n cartref a’n calonnau yng nghefn gwlad Cymru.

Cawn ein hysbrydoli gan hanes a daearyddiaeth Cymru. Rydym yn comisiynu cerddoriaeth newydd, yn archwilio repertoire rhyngwladol ac yn dathlu cerddoriaeth o’n treftadaeth i greu rhaglenni o gerddoriaeth sy’n newydd, yn unigryw ac yn rhoi mwynhad i bawb.

Credyd llun © Hawlfraint y Goron (2021) Cymru

Rydym yn gweithio gyda cherddorion siambr gwirioneddol eithriadol. Rydym yn cadw, yn datblygu ac yn denu doniau o Gymru i greu, dehongli a pherfformio cerddoriaeth siambr wych.

Does dim yn well gennym na rhannu ein hangerdd dros gerddoriaeth siambr a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Pan nad ydym yn perfformio, yn cyfansoddi neu’n ymarfer rydym yn gweithio gyda disgyblion ac athrawon o’r ysgolion lleol, yn gweithio gyda chanolfanau a lleoedd i gynyddu hygyrchedd, gan gysylltu â chymunedau newydd (sydd weithiau’n ynysig) i ddod â’n cariad at gerddoriaeth i ganol y gymuned.

Credwn fod cerddoriaeth siambr yn ffurf gelfyddydol eithriadol ac agos atoch y dylai pawb allu ei mwynhau.