Tyfodd y syniad am Ensemble Cymru o berfformiad o gerddoriaeth siambr a gynhaliwyd ym mhentref Cilcain yng ngogledd Cymru i godi arian at newyn yn Affrica ym 1993. Tyfodd a datblygodd y syniad gan fynd trwy gyfres o enwau nes sefydlu’r elusen yn 2002.
Ers hynny rydym wedi mwynhau cannoedd o gyngherddau, perfformiadau a chyfleoedd yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

Project Pedwarawd Diwedd Amser a gafodd sylw ar Sioe Gelf S4C a fu’n gweithio gydag ysgolion uwchradd, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig a’r Ganolfan Addysg ym Mhrifysgol Bangor gyda phobl ifanc a’u hymatebion i’r holocost.

Y recordiad masnachol cyntaf o’r fersiwn Cymraeg o Pedr a’r Blaidd Prokofiev a’r actor Rhys Ifans yn storïwr. Cafodd y cynhyrchiad sylw ar yr oriau gwylio brig Ddydd Nadolig a Dydd Calan ar S4C.

Cyfnewid Diwylliannol Rhyngwladol gyda chôr cymunedol a ieuenctid Rumansch yn Graubunden yn y Swistir a chorau yng ngogledd Cymru gyda chefnogaeth Llysgenhadaeth Prydain yn Berne.

Cyfnod preswyl mewn ysgol gynradd yn Llandudno a ddisgrifir fel glas-brint ar gyfer partneriaethau ysgol a diwylliannol arloesol o ansawdd uchel.
Rydym yn angerddol dros gerddoriaeth a dros y blynyddoedd, buom yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth y gallwn ei wneud i gymunedau ledled Cymru. Credwn y dylai cerddoriaeth ragorol fod ar gael i bawb lle bynnag y bônt. Dyna pam rydym yn perfformio mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ledled Cymru, ac yn cwrdd â chynulleidfaoedd newydd, gweithio gyda phartneriaid newydd, rhannu ein cerddoriaeth mewn ysgolion, cefnogi cerddorion a chyfansoddwyr newydd.
Rydym am i bawb gael cyfle i gael eu hysbrydoli, dysgu rhywbeth newydd, rhannu profiadau a syniadau gyda’n cerddorion, i gyd-greu gyda ni a chysylltu â phobl newydd.
Credyd llun © Hawlfraint y Goron (2021) Cymru