Ein tîm

Tîm bach o gerddorion ydym, o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig Peryn Clement-Evans, gyda chefnogaeth tîm gwych o ymddiriedolwyr gwirfoddol.

Ein Hymddiriedolwyr

Adrian Barsby

Ac yntau wedi datblygu o swydd porthor i reolwr cyffredinol drwy hyfforddiant gwestai traddodiadol, ac wedi sawl swydd rheolwr cyffredinol ledled Lloegr, symudodd Adrian i Gymru yn 1994 i reoli cwmni preifat yn gweithio gyda gwestai ym mhob cwr o Brydain Fawr. Enillodd y cwmni statws Buddsoddwyr mewn Pobl a gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yn 2002. Mae Adrian wedi bod yn Gadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru (2015 – 2018) gan gynrychioli dros 6000 o fentrau Twristiaeth yng Nghymru i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae wedi bod yn weithredol gyda’r Siambr Fasnach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a datblygiad economaidd rhanbarthol. Darlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion yw Adrian, ac mae ei gwmni, Barsby Associates Ltd, wedi mentora dros 200 o fentrau ers 2007, gan gaffael contractau ar gyfer prosiectau ledled gogledd-ddwyrain Cymru, WRAP (wrap.org.uk) a Phartneriaeth Datblygu Rhanbarthol.

Amanda Pemberton

Magwyd Amanda yng nghysgod cerddorol gogledd Cymru – Clwb Cerdd y Rhyl, Opera Cenedlaethol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – ac roedd cerddoriaeth yn elfen fawr yn ei bywyd cynnar a hithau’n ferch i Ffidler Iddewig o’r Weriniaeth Tsiec. Ffisiotherapi yw ei chefndir, ac fel rhan o’i swydd gweithiodd fel cyfarwyddwr Riding for the Disabled am 23 mlynedd. Yn ddiweddarach, mae Amanda wedi bod yn athrawes biano a chlarinét i oedolion a phlant yn ardal Bae Colwyn. Mae’n mwynhau bod yn rhan o fand adloniant ac wrth ei bodd yn mynd i’r eglwys. Mae wedi cefnogi gwaith Ensemble Cymru ers dros 15 o “flynyddoedd anhygoel”.

Carolyn Burton

Ganwyd Carolyn yng Ngwlad Thai a chafodd ei magu ar Ynys Môn gan ddysgu’r ffidil a’r piano o oedran cynnar a chan fwynhau chwarae mewn amrywiaeth o gerddorfeydd ac ensembles, gan gynnwys 6 mlynedd fel aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham, ac ers graddio yn 2017 mae wedi bod yn gweithio yn y sector addysg cerddoriaeth. Ar hyn o bryd hi yw Swyddog Ysgolion Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham (ers Medi 2020) a chyn hynny roedd yn Weinyddwr Hwb Cerddoriaeth ac yn athrawes ffidil peripatetig ar gyfer Gwasanaeth Cerddoriaeth Ealing yn Llundain (2017 – 2020). Mae’n yn dal i fod yn feiolinydd ac i fwynhau bod yn rhan o greu cerddoriaeth yng ngogledd Cymru – mae’n chwarae’n rheolaidd gyda Phedwarawd Llinynnol Brynafon (aelod sylfaen a rheolwr blaenorol) a Camerata Gogledd Cymru (rheolwr). Ar ôl cael budd o ddarpariaeth cerddoriaeth ieuenctid ragorol, mae Carolyn wedi ymrwymo i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i elwa ar y cyfleoedd y bu’n ddigon ffodus i’w profi gyda diddordeb arbennig mewn ysgolion ac addysg, plant a phobl ifanc, a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn cerddoriaeth (boed fel perfformiwr, gweinyddwr celfyddydau ac ati).

David Roberts (Chair)

Mae David wedi bod yn aelod o staff ym Mhrifysgol Bangor ers dros 35 o flynyddoedd, gan wasanaethu fel Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol am 15 mlynedd a Chofrestrydd Academaidd cyn hynny. Gwasanaethodd fel Dirprwy Is-ganghellor yn 2010 a daeth yn Gymrawd Anrhydeddus yn 2015. Hanesydd yw David o ran ei gefndir ac ysgrifennodd hanes y Brifysgol [Prifysgol Bangor 1884–2009] a gafodd ei gyhoeddi yn 2009 i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed. Mae wedi ymrwymo i gefnogi’r celfyddydau a diwylliant ac mae’n ymddiriedolwr sawl elusen arall yn ymwneud â’r celfyddydau a threftadaeth.

Phil Brooks – Treasurer

Ac yntau’n Gyn-bennaeth Cyfrifeg a Thrysorlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Phil yn briod, a chanddo dri o blant. Mae wedi ymddiddori yn y celfyddydau, y theatr a cherddoriaeth gydol ei oes, gan fynychu digwyddiadau yn rheolaidd yn Theatr Clwyd a chefnogi’n weithredol cyngherddau Ensemble Cymru. Wedi iddo gyflawni gradd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Efrog, cymhwysodd fel cyfrifydd ac mae wedi bod yn gweithio yn y maes llywodraeth leol, cymdeithasau tai ac ymgynghori ers 40 o flynyddoedd.

Samantha Butler

Mae Samantha, sy’n gyfrifiadurwr, yn hynod awyddus i ddefnyddio ei sgiliau er mwyn bod o gymorth i eraill, a’u cefnogi. Yn Rheolwr Cymorth TG a Chlyweledol ym Mhrifysgol Bangor, mae’n dadansoddi data newydd i sylwi ar batrymau a thueddiadau er mwyn atgyfnerthu sawl prosiect, ac mae’n cyflwyno ei sgiliau a’i brwdfrydedd i Ensemble Cymru gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith mae Ensemble Cymru yn ei chael ar gymunedau lleol, perfformwyr, cerddorion, a chynulleidfaoedd. Mae’n ymrwymedig i gefnogi Ensemble Cymru yn eu cenhadaeth, a daw â sylw a ffocws i ddata cynulleidfaoedd, dealltwriaethau a gwerthusiadau.

Sarah Gwyndaf-Roberts

Mae Sarah yn gyfreithiwr cymwys sy’n arbenigo mewn Eiddo Deallusol a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar brosiectau cymhleth a thechnegol gwerth miliynau o bunnoedd, a hynny’n fewnol ac mewn practis preifat. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Prif Swyddog Cyfreithiol yn y sector fferyllol. Mae hi hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd cyfreithiol yn darparu cyngor ar faterion strategol, masnachol a rheoliadol a chan feddu ar gyfrifoldeb penodol am risg. Triga Sarah yng ngogledd Cymru gyda’i gŵr a’i thri o blant, y mae pob un ohonynt yn chwarae offerynnau. Mae gan Sarah ddiddordeb penodol mewn galluogi plant o bob cefndir i gael profiad o gerddoriaeth a cheisio mynediad at offerynnau cerddorol.

Dr Stuart Anderson

Meddyg Teulu wedi ymddeol yw Stuart a symudodd i ogledd Cymru yn 1979, lle cyfarfu ei wraig Liz. Mae gan y pâr ddau o blant hŷn. Rhwng 1986-2006, bu’n Feddyg Teulu yn gwasanaethu’r trefi a gafodd eu heffeithio gan Ddinistr Llifogydd Towyn yn 1990. Rhwng 1999-2017, gwasanaethodd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a bu’n Gadeirydd yno rhwng 2012-14. Mae Stuart wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth ers tro, ac mae wedi bod yn canu ers nifer o flynyddoedd gyda Chymdeithas Gorawl Llanelwy a chanu’r fiola yng Ngherddorfa Prom Praise Noel Tredinnick. Ar ôl ymweld â’r lle sawl gwaith dros gyfnod o 10 mlynedd, yn 2015 trefnodd Stuart gyngerdd yn Sacsoni i nodi 70 o flynyddoedd ers rhyddhau Castell Colditz, lle bu ei dad yn Garcharor Rhyfel. Ar hyn o bryd, mae’n cefnogi ymdrechion gwirfoddol i sicrhau dyfodol y Ganolfan Chwaraeon a Hamdden ger ysgolion cynradd Bae Cinmel, ac mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cymorth y DU ar gyfer ysgol genhadol yn Mwanza, Tanzania.

Wyn Thomas

Brodor o Aberystwyth, Sir Geredigion. Treuliodd Wyn ei yrfa gyfan ym myd cerddoriaeth – naill ai fel disgybl ysgol, myfyriwr, ymchwilydd, darlithydd neu uwch-ddarlithydd yn y maes. Bu’n fraint cael 40 mlynedd o weithio mewn Prifysgol sydd wedi ei lleoli yn harddwch gogledd Cymru, yn tywys myfyrwyr drwy gyfoeth ac amrywiaeth y traddodiad cerddorol ac yn ysbrydoli ymchwilwyr ôl-radd i blymio’n ddyfnach i’w meysydd arbenigol. Bu’n aelod o fwrdd rheoli Ensemble Cymru ers ei sefydlu yn 2001 ac yn rhinwedd ei swydd, ei gyfrifoldeb yw rhannu ei ddealltwriaeth o fyd cerddoriaeth yng Nghymru a’r defnydd o gerddoriaeth yn y gymuned Gymreig. Treuliodd gyfnod fel Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ym Mangor ond mae’r awch a’r atynfa gerddorol yn parhau’n rhan annatod o’i ddiddordebau.