Ensemble Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant gyda champwaith Schubert

Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.

Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Mae’r Her Nadolig ‘Big Give’ 2018 wedi CYCHWYN Dros yr 7 diwrnod nesaf bydd pob rhodd tuag at Ensemble Cymru trwy’r ‘Big Give’ yn cael ei ddyblu gan arian cyfatebol. Fel sefydliad bach, mae pob rhodd, beth bynnag ei faint, yn cael effaith enfawr ar ein gwaith. Ar ran pawb yn Ensemble Cymru, diolch yn… Continue reading Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru

Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru ddydd Gwener 28 Medi 2018.  Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi amlygrwydd i’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr sydd yn y rhanbarth, gyda pherfformiadau byw gan Ensemble Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Clwb… Continue reading Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru

Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Mae’r cyfansoddwr o Ynys Môn, Gareth Glyn, wedi ysgrifennu darn o gerddoriaeth siambr newydd ar gyfer y prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru. Perfformir y cyfansoddiad newydd, ‘I’r Pedwar Gwynt’ am y tro cyntaf yn ystod taith Ensemble Cymru ym Mis Mai. Gweler rhestr lawn o ddyddiadau’r daith yma. Dyma Gareth Glyn yn sôn am… Continue reading Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr

I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Cyflwyno ‘Eugene Onegin’ gan Tchaikovsky…

Wrth i ni baratoi i ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith y gwanwyn, gofynasom i’n Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness rannu, ei farn ar Eugene Onegin Tchaikovsky fel darn, a’i brofiad o’r gwaith fel arweinydd. Cyflwyna John opera “hudol, synhwyrus, hardd a hypnotig” Tchaikovsky yn ei eiriau ei hun isod.