Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno

Un o uchabwyntiau ein taith yn yr hydref oedd ein hymweliad â Chanolfan Hen Filwyr Dall Llandudno yng ngogledd Cymru. Canolfan seibiant sy’n hyfforddi hen filwyr i ailsefydlu eu hunain yw’r ganolfan yn Llandudno, gan asesu a rhoi cymorth i hen filwyr â nam golwg. Adeiladwyd yr adeilad sydd ar gyrion Llandudno yn ôl ar… Continue reading Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno

Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin!  Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa… Continue reading Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Dathlu Alawon

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Continue reading Dathlu Alawon

Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)

Dymunwn ddiolch i bawb ddaeth i’r Cyngerdd Diolch yn Eglwys Gloddaeth, Llandudno. Roedd hi’n braf gweld cymaint yno, ac mae’n amlwg dros sgwrs a phaned a bara brith fod nifer fawr iawn ohonoch yn awyddus i Ensemble Cymru ddychwelyd! Gwyliwch y gofod felly!! Bu’r rhaglen Heno wrthi’n ffilmio’r digwyddiad hefyd – dyma linc i’r rhaglen:… Continue reading Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)

Published
Categorized as Newyddion