Blog Lucy am wneud cerddoriaeth (a ffrindiau bach) ym Mhwllheli

“Gan ddeffro i anferth o storm fellt a tharanau fore Sadwrn, roeddwn ychydig yn bryderus y gallai’r tywydd atal ein cynulleidfaoedd rhag dod draw – roedd hi’n swnio’n eithaf dychrynllyd y tu allan! Fodd bynnag, nid oedd angen imi boeni wedi’r cwbl, am i nifer o rieni a phlant cynhyrfus lifo i mewn i Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ychydig cyn 10am, ar gyfer bore Sadwrn o hwyl gerddorol.

Dan arweiniad Sioned Roberts a chyda chymorth cerddorol gan Katerina Maresova, roedd y gweithdy’n anelu at gyflwyno plant ifainc i ryfeddod cerddoriaeth, a hynny trwy gân, gwrando a chwarae. Meddai Katerina:

“Mi wnes i fwynhau’n wirioneddol gymryd rhan yn y gweithdy heddiw – roedd mor werth chweil gweld y plant yn rhyngweithio â’r gerddoriaeth.”

Cyraeddasom yn gynnar, gyda rhubanau, balŵns a theganau anwes, ac yn barod i addurno’r neuadd a gwneud y lle’n lliwgar ac yn gyffrous cyn i’r plant cyntaf gyrraedd. Pan gyraeddasant, gwahoddwyd teuluoedd i gymryd lle ar y llawr a chafodd y plant eitemau bach (sgarffiau, teganau a pheli), fel y gallent ddawnsio a chwarae i’r gerddoriaeth. Arweiniodd Sioned y grŵp trwy daith gerddorol, gan ddechrau â chân Helô, a oedd yn ffordd wych o ennyn diddordeb y plant bach yn y gerddoriaeth o’r cychwyn cyntaf.

Meddai Siôn, myfyriwr ATM ar gyfer Ensemble Cymru:

“Pleser tots feature pico’r mwyaf oedd gweld y plant yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn y gerddoriaeth ac yn mwynhau pob munud. Dywedwn i mai cân y byrlymau oedd fy hoff ran i; er fy mod wedi tyfu, roeddwn innau’n credu ei bod yn eithaf hudol!”

Ymddangosai’r teuluoedd fel pe baent hwythau’n dwlu ar ein bore cerddorol, a chafwyd ymatebion cadarnhaol oddi wrth bawb. Nododd rhai rhieni fod diffyg digwyddiadau ar gyfer y grŵp oedran hwn (0-3) yn yr ardal. O gofio hynny, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnal mwy o Foreau Cerddorol i Blant yn y dyfodol!”

gan Lucy Wilkins