Posted on

Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni.

Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Darllenwch fwy Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Posted on

Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd

I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf.

Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Darllenwch fwy Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd

Posted on

Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai

Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi.  Darllenwch fwy Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai

Posted on

Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!

Darllenwch fwy Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt

Posted on

Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio

Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Ceredigion, wedi lansio ‘Academi Siambr’ newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bydd cerddorion ifanc lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistri gan rai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol amlycaf y wlad.

Darllenwch fwy Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio

Posted on

Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China

Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru.

“Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…

Darllenwch fwy Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China

Posted on

Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma

Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol.

Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y cwmni o Fangor yn rhoi sylw i weithiau rhai enwau cyfarwydd, a rhai cyfansoddwyr llai adnabyddus, tuag at ddiwedd eu hoes.  Wrth i’r cyngerdd yng Nghaerdydd agosáu, rydym yn edrych ar y caledi a wynebodd y cyfansoddwyr yn ystod eu bywydau, a pha deithiau a wnaethant ar draws Ewrop ac America ar yr adeg y crëwyd y gweithiau. Darllenwch fwy Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma