Telerau Cyffredinol at Berfformwyr a chontractwyr eraill Ensemble Cymru yn unig:
Gellwch lawrlwytho telerau cyffredinol diweddaraf Ensemble Cymru ar gyfer Perfformwry drwy glicio’r ddolen isod. Bydd cyfrinair i’r ffeil ar gael yn eich cytundeb.
Anfonebau
Bydd croeso i chi anfon anfoneb mewn ebost testun plaen (mewn ebost newydd heb unrhyw negeseuon os gweli di’n dda) fel anfoneb. Anfonwch o at cyllid ‘at’ ensemble.cymru ‘at’ = @
Rhestr Wirio
Cofiwch gynnwys y canlynol os gwelwch yn dda:
- Eich enw busnes a chyfeiriad
- Anfoneb i
ENSEMBLE CYMRU, Ystafell 346, Prif Adeilad y Brifysgol, Ffordd y Coleg, BANGOR. LL57 2DG - Dyddiad Treth / Dyddiad yr anfoneb
- Rhif Archeb Ensemble Cymru neu rhif ‘Engagement’ os ydych chi wedi derbyn archeb neu trefnlen oddi wrthym
- Rhif neu god ar gyfer yr anfoneb e.e. 1000, 1001 ayb – bydd hyn yn ddibynnol ar dy system di o gadw anfonebau
- Disgrifiad o’r gwasanaethau yn cynnwys dyddiadau a natur y gwaith.
- SYLWER: Cadwch ffioedd ac ad daliadau gan gynnwys costau teithio, llety ar linellau ar wahân os gweli di’n dda
- Cyfanswm yr anfoneb
Defnyddiwch Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith fel y dymuwch. Dylech chi ystyried cadw copi o’r anfoneb
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad. Bydd hyn yn helpu osgoi taliadau hwyr.
Gwybodaeth arall
Invoicing and taking payment from customers: Invoices – what they must include – GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)