
Adroddiad Annibynnol gan Nia Richards (Tybed)
Datblygodd Ysgol Tudno ac Ensemble Cymru arfer arloesol ym maes y Celfyddydau Mynegiannol drwy ddull ymholi-proffesiynol cydweithredol ac maent wedi cynyddu ymgysylltiad trwy ymateb i anghenion a diddordebau’r disgyblion ac wedi meithrin cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Nia Richards (Tybed)
Mae ysgolion cymunedol effeithiol yn defnyddio asedau’r ysgol mewn modd ystyriol i wella bywydau plant a theuluoedd yn y gymuned leol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol mewn ffyrdd mentrus a chreadigol. Maent yn ceisio mynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth chwaraeon, diwylliannol neu ofal lleol.
Estyn 20201
Darllenwch fwy Cyfoethogi cymuned yr ysgol trwy’r Celfyddydau Mynegiannol a gweithio mewn PartneriaethGall profiadau yn y maes hwn ysbrydoli a chymell dysgwyr gan eu bod yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod i gyswllt â phrosesau creadigol. Golyga hyn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau megis ymweld â theatrau ac orielau, ac i ddod ag arbenigedd ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth.
Addysg Cymru, 20202