Gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, mae Ensemble Cymru yn cefnogi Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100. Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gan Tia a Harry – dau fyfyriwr cerdd o Brifysgol Bangor sydd wedi ymuno â ni am 6 wythnos, fel rhan o’r Rhaglen Cyflogadwyedd. Maent wedi bod yn ein helpu drwy hyrwyddo, perfformio a rheoli… Continue reading Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion
Categori: Creu Cerddoriaeth
Hanes Cerddoriaeth Siambr yng Nghymru
We asked our esteemed friend and colleague Wyn Thomas, who is a senior lecturer at the School of Music, Bangor University, for his insights into the history and development of classical music in Wales. Here follows Wyn’s fascinating potted history …
Ensemble Cymru’n creu cyfleoedd i gyfansoddwyr ifanc ar ddechrau eu gyrfa
Fis Medi 2019, dechreuodd triawd Peryn Clement-Evans (clarinét), Nicky Pearce (soddgrwth) a Richard Ormond (piano) ar breswyliad wythnos o hyd gyda myfyrwyr o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Ochr yn ochr â Lynne Plowman buont yn arwain gweithdai cyfansoddi i oddeutu 400 o fyfyrwyr TGAU a Lefel A.
Cefn Ydfa a Bugeilio’r Gwenith Gwyn
Yn ôl yn yr haf, un o’r profiadau arbennig gawsom ni wrth baratoi at ein taith “Wythawd” oedd ymweld â chartref Ann Thomas, Cefn Ydfa; gwrthrych y gân werin, Bugeilio’r Gwenith Gwyn.
Pwt o raglen y Daith
Dod i Adnabod Wythawd Schubert
Ensemble Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant gyda champwaith Schubert
Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.
Dewch i gwrdd â’r cyfansoddwyr yn y gyfres ‘Goleuni ar Gyfansoddwyr’
Dewch i gwrdd â’r cyfansoddwyr y bydd eu gwaith yn cael ei berfformio yn y cyngherddau ‘Goleuni ar Gyfansoddwyr’ yn ystod taith Ensemble Cymru fis Mai. Sgroliwch i lawr i weld cyfweliadau fideo gyda’r cyfansoddwyr Gareth Churchill, Rhian Samuel a Guto Pryderi Puw.
Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru
Mae’r cyfansoddwr o Ynys Môn, Gareth Glyn, wedi ysgrifennu darn o gerddoriaeth siambr newydd ar gyfer y prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru. Perfformir y cyfansoddiad newydd, ‘I’r Pedwar Gwynt’ am y tro cyntaf yn ystod taith Ensemble Cymru ym Mis Mai. Gweler rhestr lawn o ddyddiadau’r daith yma. Dyma Gareth Glyn yn sôn am… Continue reading Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru
Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr
I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.