Dod i Adnabod Wythawd Schubert
Categori: Newyddion
Dathlu Alawon
A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Continue reading Dathlu Alawon
Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)
Dymunwn ddiolch i bawb ddaeth i’r Cyngerdd Diolch yn Eglwys Gloddaeth, Llandudno. Roedd hi’n braf gweld cymaint yno, ac mae’n amlwg dros sgwrs a phaned a bara brith fod nifer fawr iawn ohonoch yn awyddus i Ensemble Cymru ddychwelyd! Gwyliwch y gofod felly!! Bu’r rhaglen Heno wrthi’n ffilmio’r digwyddiad hefyd – dyma linc i’r rhaglen:… Continue reading Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)
NODAU O DDIOLCH!
Bydd Ensemble Cymru yn chwarae nodau o ddiolch i bobl Cymru a thu hwnt, mewn cyngerdd arbennig yn Eglwys Gloddaeth Llandudno, am 10.30 ar fore Iau, Mai 23
Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru
Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru ddydd Gwener 28 Medi 2018. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi amlygrwydd i’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr sydd yn y rhanbarth, gyda pherfformiadau byw gan Ensemble Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Clwb… Continue reading Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru
Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr
Mae’r tocynnau Cynnig Cynnar yn gwerthu’n gyflym, prynwch eich tocynnau’n awr cyn ei bod yn rhy hwyr! Mae’n hawdd iawn manteisio ar y cynnig hwn a chael gwerth eich arian. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau yn un o’r lleoliadau sydd wedi eu rhestru isod, cyn 13 Hydref 2017, a phrynu tocyn ar gyfer cyngerdd nesaf Ensemble… Continue reading Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr
Mae Llyfryn y Tymor Newydd Wedi Cyrraedd!
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod llyfryn tymor newydd Ensemble Cymru wedi cyrraedd!
Lansio Tymor Newydd – Byddwch y Cyntaf i Glywed!
Bydd tymor 2017-18 sydd o’n blaenau’n un arbennig i Ensemble Cymru am y byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 15 mlwydd oed. Caiff rhaglen y tymor newydd ei lansio ar ddiwedd yr haf, felly os nad ydych eisoes ar ein rhestr ohebu ond yr hoffech dderbyn un, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda.
Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau
Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…