Ar fore dydd Mercher, ar ôl gadael dau o blant yn saff yn yr ysgol, teithiais i Ganolfan Gymunedol Millbank yng Nghaergybi. Roeddwn i ar y ffordd i “Little Pods Parent and Toddler Group” i weld os oes modd iddyn nhw ac Ensemble Cymru cyd-weithio â datblygu perthynas. Treuliais awr a hanner hyfryd yn sgwrsio… Continue reading Blwyddyn newydd, ffordd newydd o weithio!
Categori: Cyd-greu a Chydweithio
Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr
Prosiect a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Opera Canolbarth Cymru/Ensemble Cymru mewn ymateb i COVID-19 Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddifrodus ar gymunedau cefn gwlad Cymru ac ar y diwydiannau creadigol. Chwalwyd yr incwm gan dwristiaeth yr oedd nifer o gymunedau’n dibynnu arno a diflannodd gwaith y rhan fwyaf o berfformwyr am hyd at… Continue reading Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr
Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt
Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!
Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China
Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Ensemble Cymru yn y Swistir
Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir. Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout… Continue reading Ensemble Cymru yn y Swistir
Cerddoriaeth, Cymraeg a Rumantsch yn y Swistir
Perfformiad ar gyfer Darllediad ar Radio a Theledu Rumantsch. Roedd y perfformiad ar y cyd â Corcanti Chur a Chôr Rumantsch o flaen disgyblion, athrawon, teuluoedd a’r cyhoedd yn brofiad gofiadwy iawn. Recordiwyd yr holl ddigwyddiad ar gyfer teledu a radio Romansch. Yr uchafbwynt oedd perfformio Hen Wlad Fy Nhadau (trefn. Gareth Glyn) ar y cyd… Continue reading Cerddoriaeth, Cymraeg a Rumantsch yn y Swistir
y Swistir o’r diwedd
Ar ôl cyfnewid awyrennau a bron yn colli ein bagiau yn Gatwick dyma Jonathan Rimmer, Oliver Wilson, Sara Lian Owen ac Anne Denholme newydd gyrraedd Gorsaf Drên Zurich ar y ffordd i Chur yn Graubünden. Dyma brosiect cyffrous gyda chymuned sy’n siarad Romansch un o’r 4 iaith swyddogol y Swistir.
Mae Taith Harlecwin/Dyfroedd Byw yn nesau
Yr hanes hyd yn hyn….yn fyr….. Roedd ddoe yn ddiwrnod prysur. Teithiais i Gaerdydd i berfformio mewn cyngerdd amser cinio gyda Peryn a Harvey, yn Eglwys RHiwbina. Roedd hi’n braf gweld cymaint yn y gynulleidfa – ac rwy’n gobeithio’n fawr gweld rhai ohonynt dros y penwythnos.
Gweithio gydag Ensemble Cymru, gan y cyfansoddwr, Gareth Glyn
Rydw i wedi cael fy newis fel cyfansoddwr ar sawl achlysur ers blynyddoedd gan Ensemble Cymru – mudiad sy’n gwneud mwy na neb arall, dybiwn i, i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth siambr yng Nghymru – felly roeddwn i wrth fy modd yn cael fy newis i gyfansoddi darn ar gyfer eu Taith Genedlaethol gynta nhw.