Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach).
Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau cerddorol, bandiau, ysgolion a gweithleoedd yn ardal Bangor a Llandudno i ymuno ag Ensemble Cymru i fynd â ChamberFest i’r lefel nesaf.

Felly os ydych wastad eisiau gwybod sut beth fyddai clywed band pres o 100 yn perfformio Tocata a Ffiwg Bach ar Benygogarth, neu efallai eich bod yn gweithio mewn swyddfa sy’n llawn o ddarpar gantorion a hoffech ffurfio eich côr eich hun o staff, neu efallai eich bod yn athro/athrawes a fyddai’n hoffi gweld eich disgyblion yn cael eu cynhyrchu a’u hysbrydoli gan gerddoriaeth. Beth bynnag fo’ch syniad, cysylltwch â ni i roi gwybod.
Nid yw hon yn rhestr derfynol o syniadau, ond gall eich ysbrydoli gyda’r math o ddigwyddiad neu weithgaredd yr hoffech gymryd rhan ynddo fel rhan o’r ŵyl Chamberfest…