Ymarferwr cerdd: Lucy Clement-Evans

Yn wreiddiol o Birmingham, mae Lucy yn bwy yng Nghymru ers 1996.  Daeth i Gymru i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Graddiodd gyda BMus (Dosbarth cyntaf gydag anrhydedd) ac wedyn gydag M.A.  Mae hi’n chwarae piano a chlarinét, ond addysg gerddoriaeth yw ei phrif ddiddordeb.

Corn Ffrengig: Nicholas Ireson

Mae Nick Ireson yn mwynhau gyrfa brysur fel perfformiwr, gan weithio gydag amrywiaeth o gerddorfeydd ac ensemblau ledled y DU a thramor.  Fe’i gwelir yn aml o dan y llwyfan yn chwarae i wahanol gwmnïau bale ac weithiau mae’n mentro uwchben y ddaear i’r platfform cyngerdd hefyd.

Basŵn: Llinos Elin Owen

Magwyd Llinos ym Mhwllheli, a mynychodd yr ysgol yno cyn cael ei derbyn i Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion ar gyfer chweched dosbarth. Parhaodd â’i haddysg  yng Ngholeg Santes Catharine yng Nghaergrawnt, cyn cwblhau cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Obo: Huw Clement-Evans

Mae Huw yn byw yn Llundain fel oboydd ar ei liwt ei hun. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion gyda Robin Canter.

Clarinét: Peryn Clement-Evans

Peryn Clement-Evans yw prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. Bu Peryn yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) ac wedi hynny yn Rotterdam’s Conservatorium gyda’r unawdydd rhyngwladol o wlad Belg, Walter Boeijkens.