Sielo: Nia Harries

Cafodd Nia yr anrhydedd o fod yn fyfyrwraig i Jacqueline du Pre am sawl blwyddyn, a hefyd yn fyfyrwraig i Steven Isserlis tra’r roedd hi yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Mae wedi gweithio’n helaeth gyda grwpiau cerddoriaeth gynnar gan gynnwys Cerddorfa’r Age of Enlightenment a’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique.

Sielo: Nicola Pearce

Magwyd Nicola yn Bedford a Dyfnaint cyn mynd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod Llundain. Mae hi wedi ennill sawl gwobr gydnabyddedig gan gynnwys ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerddorol Chigiana yn Sienna, yr Eidal.

Bas dwbl: Martin Ludenbäch

Wedi iddo dyfu fyny yng Nghymru, astudiodd Martin yn Ysgol y Guildhall ac erbyn hyn mae o’n chwaraewr y bas dwbl llawrydd.

Feiolín: Florence Cooke

Mae galw mawr am wasanaeth Florence Cooke fel cerddor siambr, ac mae hi wedi perfformio’n helaeth yn y DU a thramor.  Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle dyfarnwyd iddi ysgoloriaeth academaidd, ac yn y Guildhall, lle bu’n Gymrawd Leverhulme.  Mae hi wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Ysgoloriaeth Myra Hess, Gwobr Nigel Brown,… Parhau i ddarllen Feiolín: Florence Cooke

Fiola: Sara Roberts

Mae Sara’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn. Cafodd wersi feiolin gan Almut Bone a Margaret Scourse cyn dechrau dysgu’r fiola yn 15 mlwydd oed.

Fiola: Lucy Nolan

Mae Lucy, a aned yn Nulyn, ar hyn o bryd yn mwynhau gyrfa brysur fel cerddor siambr ac athrawes. Graddiodd o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei gradd gyntaf ac yna gyda gradd Meistr mewn Perfformio Unawdol a chyda Diploma Artist Rhyngwladol mewn Arwain Cerddorfa Linynnol, a gwblhaodd… Parhau i ddarllen Fiola: Lucy Nolan

Feiolín: Elenid Owen

Bu Elenid, am bedair blynedd ar hugain, yn aelod o Bedwarawd Llinynnol Ludwig ym Mharis, yn cynnal cyngherddau a dosbarthiadau meistr ledled y byd ac yn recordio ar gyfer labeli “Naxos”, “Naïve” a “Universal”.

Fiola: Oliver Wilson

Bu Oliver yn brif fiola gwadd gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment yn Schloss Esterhazy yn Eisenstadt (lle roedd y cyfansoddwr Haydn yn byw ac yn gweithio).   Mae wedi perfformio yn y BBC Proms a Gŵyl Caeredin gyda Syr John Eliot Gardiner a’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique.