Posted on

Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni.

Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Darllenwch fwy Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Posted on

Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd

I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf.

Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Darllenwch fwy Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd

Posted on

Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!

Darllenwch fwy Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt

Posted on

Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio

Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Ceredigion, wedi lansio ‘Academi Siambr’ newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bydd cerddorion ifanc lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistri gan rai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol amlycaf y wlad.

Darllenwch fwy Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio

Posted on

Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China

Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru.

“Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…

Darllenwch fwy Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China

Posted on

Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma

Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol.

Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y cwmni o Fangor yn rhoi sylw i weithiau rhai enwau cyfarwydd, a rhai cyfansoddwyr llai adnabyddus, tuag at ddiwedd eu hoes.  Wrth i’r cyngerdd yng Nghaerdydd agosáu, rydym yn edrych ar y caledi a wynebodd y cyfansoddwyr yn ystod eu bywydau, a pha deithiau a wnaethant ar draws Ewrop ac America ar yr adeg y crëwyd y gweithiau. Darllenwch fwy Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma

Posted on

Ensemble Cymru yn y Swistir

Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir.

Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout MBE.

Pennawd y llun: Sara Lian Owen, Peryn Clement-Evans and Anne Denholm (photo credit Timothy Ellis)

Bydd y rhaglen yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth o Gymru gan gynnwys Cerddoriaeth Grace Williams 40 mlynedd ers ei marwolaeth.

Mae Cymru a Valais yn rhannu hanes Celtaidd a tharddiad yn yr enw Wales a Valais (Wallis).

Perfformwyr:

Anne Denholm –Telyn (ein prif delynores newydd a’r delynores swyddogol i EUB Tywysog Cymru)
Sara Lian Owen – Soprano (yn wreiddiol o Fangor yn y Gogledd Cymru)
Peryn Clement-Evans – Clarinét

Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru a’r clarinetydd fydd ar y daith:

“Roedd yn gyffrous i dderbyn gwahoddiad i Pencampwriaeth Gymreig yr Aplau ac rwy’n edrych ymlaen at wneud cyfeillion newydd yn canton Valais yn y Swistir.  Gwnaethom ni dderbyn gwahoddiad gan Ray Pritchard, Cymro sy’n byw yn y Swistir ac rydyn ni’n dra ddiolchgar iddo fo a’r gymuned yn Champéry am drefnu a chefnogi ein hymweliad”

 

Posted on

Triawd gwych Ensemble Cymru yn mynd ar daith ym mis Chwefror

Mae Ensemble Cymru, pencerddorion cerddoriaeth siambr, yn mynd ar eu taith gyntaf yn 2017 – a byddant yn cynnal cyngherddau ar draws Cymru.

Y cerddorion arobryn yn cynnwys y feiolinydd Florence Cooke, y pianydd Richard Ormrod a chyfarwyddwr artistig a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, fydd y triawd ar gyfer y daith ym mis Chwefror fydd yn cynnwys rhaglen chwaethus o gerddoriaeth siambr.

Bydd gwaith Mozart, un o gyfansoddwyr cerddoriaeth glasurol mwyaf toreithiog a dylanwadol, sef ei Sonata yn Bb fwyaf, yn cael ei chwarae yn ystod cyngherddau Ensemble Cymru ym mis Chwefror. Bydd y triawd siambr hefyd yn perfformio cyfres llawn egni a ysgrifenwyd gan gyfansoddwr Ffrengig hynod wreiddiol o’r ugeinfed ganrif, Darius Milhaud, a darn gan Béla Bartók, Contrasts, a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin dwyrain Ewrop.

Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru a’r clarinetydd fydd ar y daith:

“Rydym i gyd ar ben ein digon ar ôl ein hymgyrch Rhoi Mawr ym mis Rhagfyr, a lwyddodd i godi £12,000. Ar ran Ensemble Cymru, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu haelioni. Mae hyn wedi rhoi hwb sylweddol i ni cyn ein taith o amgylch Cymru ym mis Chwefror. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae darn a ofynnodd y clarinetydd jazz enwog Benny Goodman i’w ffrind Béla Bartók ei gyfansoddi. Ceir llawer o draddodiadau a dawnsfeydd gwerin o Hwngari a Romania a bydd rhaid i Florence, ein feiolinydd, ail-diwnio dau linyn ar ei ffidil yn ystod y gerddoriaeth er mwyn gallu creu sain werin gyffrous iawn o ddwyrain Ewrop!”

Mae tocynnau ar werth mewn lleoliadau ar draws Cymru yn cynnwys Venue Cymru, Llandudno, Capel Gad yng Nghilcain ger yr Wyddgrug, Pontio ym Mangor, Galeri yng Nghaernarfon, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Chanolfan Ucheldre Caergybi, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chapter Arts yng Nghaerdydd. Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld rhestr lawn o’r lleoliadau a dyddiadau ac amseroedd y cyngherddau. Fe’ch cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw.

Posted on

Telynores frenhinol yn ymuno ag Ensemble Cymru i lansio tymor newydd yr hydref hwn

Bydd Ensemble Cymru, pencampwyr cerddoriaeth siambr, yn croesawu gwestai arbennig iawn fel rhan o lansio eu Cyfres Gyngherddau newydd sbon am 2016/17.  Bydd Anne Denholm, telynores swyddogol Tywysog Cymru, yn perfformio fel rhan o’r pedwarawd yn y cyntaf o gyngherddau Ensemble Cymru a gynhelir mewn mannau ar draws Cymru fis Hydref a Thachwedd eleni.

Gan ddechrau yn Pontio ym Mangor ddydd Sul 30 Hydref, bydd Ensemble Cymru’n mynd ar daith i fannau ledled Cymru, yn cynnwys Venue Cymru, Llandudno, Galeri yng Nghaernarfon, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Canolfan Ucheldre Caergybi, Capel Gad yng Nghilcain ger Yr Wyddgrug, a gorffen yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 27 Tachwedd.

Anne Denholm_credit Timothy Ellis
Anne Denholm

Fel rhan o genhadaeth yr Ensemble i roi amlygrwydd i’r gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, mae rhaglen taith Hydref a Thachwedd yn cynnwys cymysgedd rhyngwladol cyffrous o ddarnau, yn cynnwys sonatâu o’r cyfnodau Baróc a Chlasurol cynnar gan Vivaldi a C.P.E. Bach.  Yn y rhaglen hon hefyd ceir y Capriccio bywiog gan Franz Poenitz a  Deialogau gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Mervyn Burtch.

Dywedodd Anne, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru, cyn y daith:

“Mae bob amser yn bleser pur cael dod i Gymru i berfformio – mae’n dal i deimlo fel cartref!  Rwyf wedi cael amser hynod gyffrous ac ysbrydoledig wrth weithio gydag Ensemble Cymru hyd yma, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymarfer a pherfformio’r rhaglen amrywiol rydym wedi’i llunio ar gyfer cyfres gyngherddau’r hydref yma – mae yna rywbeth i bawb ynddi!”

Bydd Peryn Clement-Evans, prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, yn perfformio fel rhan o’r pedwarawd yr hydref hwn, gyda’r delynores Anne Denholm, Johnathan Rimmer ar y ffliwt a’r baswnydd Llinos Elin Owen, sy’n enedigol o Bwllheli.

Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld manylion llawn dyddiadau’r daith.  Mae tocynnau ar werth yn awr ym mhob un o’r lleoliadau.