Ni allwn wneud y gwaith a wnawn heb gefnogaeth hael ein rhoddwyr, ein cyllidwyr a’n cefnogwyr.

Mae’r arian a roddwch yn ariannu ein cyngherddau a’r gwaith ledled Cymru.

Rydym am i bobl o bob oed ac ardal yng Nghymru brofi cyfoeth cerddoriaeth siambr Cymru a cherddoriaeth siambr o bob cwr o’r byd. I wneud hynny rydym yn dibynnu ar haelioni unigolion, ymddiriedolaethau, cyrff corfforaethol a chyhoeddus. Oherwydd ein bod yn elusen gofrestredig mae pob £1 a gawn trwy haelioni trethdalwr DU yn derbyn 25c ychwanegol gan CThEM.

Fel elusen mae unrhyw warged o’n gweithgareddau yn mynd yn ôl at gynnal mwy o weithdai yn yr ysgolion, mwy o berfformiadau mewn canolfannau cymunedol a mwy o gyfleoedd i berfformwyr ifanc a rheolwyr celfyddydau’r dyfodol trwy ein cynlluniau profiad gwaith.

Ymhlith y projectau diweddar mae project radio cymunedol gyda phlant ysgol yn Llandudno, creu gweithgareddau ar-lein i blant ysgolion cynradd yn y cyfnod clo, recordio a chefnogi cyfansoddwyr ifanc yng nghanolbarth a de Cymru, ein ‘taith gyffwrdd’ yn yr hydref ar gyfer y cyn-filwyr dall a’r cydweithio gyda’n ffrindiau yn Opera’r Canolbarth.

Gweler effaith eich rhodd trwy ddarganfod mwy am yr hyn a wnawn. Yr Hyn a Wnawn.