Effaith eich rhoddion hyd yn hyn…
2020: Plant, Pobl Ifanc a Figaro
Gyda’n cyfeillion newydd yn Oriel Myrddin, gwnaethom ni greu gweithgareddau i blant ysgol gynradd yn ystod y cyfnod clo. Gan weithio gyda Chyfansoddwyr Ifanc Dyfed, gwnaethpwyd 67 o recordiadau o ddarnau gan gyfansoddwyr ifanc Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ogystal â chynnal gweithdai rhithiol a arweiniwyd gan y cyfansoddwraig, Lynne Plowman ar gyfer 20 o’r cyfansoddwyr hyn, .
Yn ystod y cyfnod clo, ailwampiwyd y breswyliaeth yn Ysgol Tudno (Llandudno) er mwyn gweithio ar-lein. Cynhaliwyd gweithgareddau rhithiol wythnosol i blant a staff Ysgol Tudno. Ysbrydolwyd y breswyliaeth gan raglen cerddorfa siambr yn Bremen a’r Pum Ffordd at Les . Trwy gydol y prosiect mae’r tîm creadigol wedi gweithio er lles plant a staff er mwyn cefnogi’r plant i fod yn ddysgwyr hyderus a dyheadol.
Cyn cychwyn y cyfnod clo, denodd ein perfformiad ar y cyd â’n cyfeillion yn Opera Canolbarth Cymru o Briodas Ffigaro gan Mozart glod y Sunday Times.
2019: Cyrraedd pobl drwy Schubert
Uchafbwyntiau ein taith yn yr hydref i leoliadau ledled Cymru oedd: ein hymweliad â Chanolfan Cyn-filwyr Dall yn y gogledd; ein perfformiad i ddioddefwyr Dementia a’u gofalwyr yn yr Ucheldre; cyfle i ganu Schubert gyda chôr siambr Prifysgol Bangor cyn ein cyngerdd ym Mangor ;ag ymarfer agored o flaen plant ysgol gynradd yn Llandudno. mwy
2018: Cyfarfod y Cyfansoddwr!
Tryw gyfrwng perfformiadau cyn-cyngerdd i’n taith ledled Cymru, gwnaethom ni ddarparu cyfleoedd i gyfansoddwyr Cymreig ddod â’u gweithiau gerbron cynulleidfa ehangach ac arddangos cyfoeth a dyfnder y doniau sydd yng Nghymru.
2017: Plant a Phobl Ifanc:
Yn ogystal â’r digwyddiadau Cymunedol ac estyn allan, mae Ensemble Cymru’n gweithio’n ddygn gyda’r ysgolion cynradd i fynd â Cherddoriaeth Siambr i’r ystafell ddosbarth a rhoi cefnogaeth ychwanegol i addysg gerddorol yng Nghymru. Bu cerddorion Ensemble Cymru’n gweithio gyda disgyblion Ysgol Pendalar (Caernarfon) ac Ysgol Hafod Lon (Pwllheli). Ar ein dwy daith gyngerdd fawr y tymor, perfformiodd cerddorion Ensemble Cymru i gleifion a’u teuluoedd yn Ysbyty Llandudno.
2016: Rhaglenni Estyn Allan
Dwy daith ledled Cymru, ymrwymiadau rhyngwladol, gweithio gyda’r ysgolion cynradd a cherddorion ifanc, perfformiadau mewn ysbytai yn ogystal â chydweithio gyda sefydliadau newydd fel Cymdeithas Alzheimer Cymru; a’r cyfan yn dod â phobl yn nes at gerddoriaeth siambr.
2015: BachFest Grwpiau Cymunedol
Dathliad o gerddoriaeth JS Bach dros benwythnos a digwyddiadau mewn lleoliadau ledled y gogledd gan gynnwys dros 100 o gerddorion proffesiynol, grwpiau cymunedol, cantorion lleol, plant, a phobl ifanc yr ardal. Mwy
2014: Pedr a’r Blaidd Cymraeg yn cyrraedd miloedd…
Y recordiad Cymraeg cyntaf erioed o ‘Pedr a’r Blaidd’ Prokovfiev gyda naratif gan yr actor adnabyddus o Hollywood, Rhys Ifans. Cyrhaeddodd cynhyrchiad ‘Pedr a’r Blaidd’ fwy na 15,000 o bobl ar daith genedlaethol a darllediad ar S4C.