Ein cefnogwyr

Diolch yn fawr!

Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddem yn bodoli.

Ni allwn ddiolch i bawb wrth ei enw ond gobeithiwn eich bod yn gwybod ein bod ninnau a’r cymunedau sy’n mwynhau’r gerddoriaeth yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth.

I’n rhoddwyr unigol – diolch.

I’r ymddiriedolaethau a’r sefydliadau sy’n ein cefnogi – diolch.

I’r cynulleidfaoedd ffyddlon, y plant rydym yn gweithio gyda nhw, yr ysgolion, yr athrawon, y staff, y grwpiau cymunedol, y rhieni, y prifysgolion, y teuluoedd a’r myfyrwyr sy’n ein hysbrydoli – diolch.

Gwyddom fod cerddoriaeth yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru yn ennyn llawenydd. Mae datblygu talent yn cynnal ac yn bywiogi ein hecoleg ddiwylliannol. Mae rhannu straeon a syniadau pobl o bob rhan o Gymru yn creu cysylltiadau ac yn hybu lleisiau cymunedau ynysig.

Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud yn bosibl.

Rhoddwyr

Gaynor Cemlyn-Jones Trust

Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer gogledd Cymru

Elusen Gwendoline a Margaret Davies

Arts Council of Wales - Lottery funded and sponsored by Welsh Government
Canolfan Bedwyr

… a phob un o’n cyfranwyr a rhoddwyr unigol.


Ein Partneriaid a Rhanddeiliaid

Prifysgol Bangor:
Rydym yn ensemble preswyl ym Mhrifysgol Bangor

Venue Cymru:
Rydym yn ensemble preswyl yn Venue Cymru

Mid Wales Opera (MWO):
Buom yn bartneriaid ag Opera’r Canolbarth ar nifer o gynyrchiadau a phrojectau ers 2017

Grŵp Cynefin

Môn CF