Hygyrchedd

Mae Ensemble Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad er mwyn i bawb, waeth ble maent yn byw a’u hanghenion unigol, yn medru mwynhau cerddoriaeth ragorol a chyfleoedd gan Ensemble Cymru.

Rydym wedi ail-ddylunio ein gwefan gan ganolbwyntio ar hygyrchedd.

Rydym yn gweithio â theuluoedd, grwpiau a chymunedau i sicrhau bod y digwyddiadau a phrosiectau rydym yn eu rheoli i gyd wedi’u cynllunio i hwyluso anghenion unigol ein cyfranogwyr, perfformwyr a chynulleidfaoedd.

Rydym yn gweithio â lleoliadau wedi’u rheoli i sicrhau bod y wybodaeth fwyaf cyfredol wrth law gennym ynghylch eu hygyrchedd.

Pan fyddwn yn perfformio mewn lleoliadau cymunedol llai (lleoliadau nad oes ganddynt o reidrwydd wefan neu wybodaeth am hygyrchedd ar gael yn rhwydd) rydym yn gweithio’n galed i rannu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am barcio, mynediad i bobl anabl a chyfleusterau.

Rydym yn parhau i archwilio ac arloesi gyda thechnoleg ddigidol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd yn eu cartrefi.

Rydym yn dewis gweithio â grwpiau sydd wedi’u heithrio a’u hynysu – pobl a all deimlo nad ydynt yn medru mynychu cyngherddau, digwyddiadau neu berfformiadau – i greu a chynllunio profiadau sy’n benodol iddyn nhw, a rhoi eu hanghenion wrth galon ein gwaith.

Rydym yn dîm bychan iawn, ond yn eithriadol o uchelgeisiol. Os ydych chi’n dymuno cefnogi ein gwaith, ac yn medru cynnig unrhyw ddatrysiad ymarferol i ehangu ein gwaith yn y maes hwn (efallai eich bod yn is-deitlydd neu’n ddehonglwr BSL), byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu â ni.

Gweler y rhestr o’n Lleoedd a’n Lleoliadau

Hynt

Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt ac mae’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau’r celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd â nam neu ofynion penodol o ran mynediad, a’u Gofalwyr neu’u Cynorthwywyr Personol. Mae eu gwefan yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am Hynt: ar gyfer pwy y mae; yr hyn y mae’n ei ddarparu; a sut mae dod yn aelod.

Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynd i berfformiad mewn theatr neu ganolfan y celfyddydau, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt. Ewch i www.hynt.co.uk/cy/.