Addasiad Cymraeg cyntaf o ‘Pedr a’r Blaidd’ gan Sergei Prokofiev

£8.00

Categories: ,

Description

Mae Ensemble Cymru yn cyflwyno’r recordiad cyntaf un yn y Gymraeg o Pedr a’r Blaidd gan Segei Prokovief. Cerddorfa siambr 30 darn Ensemble Cymru sy’n perfformio’r gerddoriaeth gyda seren Hollywood, Rhys Ifans yn adrodd y stori yn Gymraeg.

Stori sydd yn y chwedl dylwyth teg hon am Pedr, ei ffrindiau yr aderyn, yr hwyaden a’r gath a’u hanturiaethau gyda’r blaidd.

Bydd y recordiad ardderchog yn sicrhau y bydd plant a’u rhieni hefyd ledled Cymru yn dal i fwynhau cerddoriaeth Prokofiev am yn hir ar ôl y profiad o wrando ar y perfformiad.

Gallwch gael cip ar ein fideo o ‘Pedr a’r Blaidd’ Ensemble Cymru, drwy gwrteisi cwmni Fflic.

Prynwch Pedr a’r Blaidd am £8 gan gynnwys postio a phacio yma – Drwy brynu copi, byddwch yn helpu Ensemble Cymru i helpu mwy o blant Cymru i ddysgu Cymraeg drwy gerddoriaeth glasurol.

Additional information

Pwysau 0.2 kg