Digwyddiad anffurfiol fydd yn amlygu cerddoriaeth gan John Hywel, cyfansoddwr a chyn-ddarlithydd a phennaeth yr adran gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a pherfformiad gan aelodau o Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol. Rydym wrth ein bodd bod John wedi cytuno i fod yn bresennol.
Mae Ensemble Cymru mewn cydweithrediad â Pontio, Cyfarwyddwr Cerdd, Gwyn L. Williams a staff a myfyrwyr yr adran gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn falch o dalu teyrnged i John Hywel ac i’w gyfraniad sylweddol hanesyddol i greu-cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac yng ngogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd.
Rhaglen:
RACHMANINOFF, Sergei – Triawd Élégiaque rhif 1 yn G leiaf
HYWEL, John – The Seven Ages of Man (1969) i lefarydd a phedwarawd chwythbren.
Perfformwyr:
Ensemble Cymru
- Llefarydd – Philip Smith (La Boheme – Puccini, Opera Canolbarth Cymru
- Ffliwt – Nicola Woodward
- Obo – Huw Clement-Evans
- Clarinét – Peryn Clement-Evans
- Basŵn – Alanna Macfarlane
Triawd Piano: Mae aelodau’r triawd yn cynnwys aelodau Cerddorfa Symffoni y Brifysgol a myfyrwyr Prifysgol Bangor
- Feiolin – Katrina Perre
- Sielo – Ellie Billingham
- Piano – Elliot Smith-Rasmussen
Cydnabyddiaeth
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones ac i gefnogwyr hael Ensemble Cymru am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.
Dyddiad 11/03/2022 Amser 7:00 pm - 8:00 pm
Lleoliad Neuadd Powis