Uchafbwynt Taith Ben-blwydd @ Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

photo credit Tom Porteous

Dyddiad 06/05/2018 Amser 3:00 pm - 4:30 pm

Lleoliad Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Cyngerdd mis Mai

Ar ôl 15 mlynedd o greu cerddoriaeth, mae ein ensemble mwy o faint yn galluogi rhaglen drawiadol ar gyfer mis Mai 2018 sy’n wirioneddol amrywiol o ran amser a lleoliad. O Gymru, mae’n bleser mawr gennym berfformio gweithiau gan ddau gyfansoddwr byw: comisiwn newydd sbon gan Gareth Glyn, ac Emerging (lightly) gan Rhian Samuel o Aberdyfi.  O’r ugeinfed ganrif, cawn y perl na pherfformir mohoni’n aml, Nonet, gan y cyfansoddwr mawr o Loegr, Arnold Bax, ynghyd â Dawnsfeydd Debussy i’r Delyn a Phumawd Llinynnol, a gyfansoddwyd i ‘arddangos’ y delyn. O fynd yn ôl i 1738, mae concerto Hangel Op. 4, Rhif 6 i’r Delyn yn tynnu ar ymron i’r cyfan o’r grymoedd offerynnol amrywiol sydd gennym y tymor cyffrous hwn.

Gan ddiolch i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones am gefnogi Cadair Ryngwladol Ensemble Cymru i’r Delyn am yr ail flwyddyn.

Bydd Cyngerdd Preliwd ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ yn digwydd cyn y prif gyngerdd, mwy o fanylion yma.

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i’r ffliwt, obo, clarinét, telyn, ffidlau, sielo a bas dwbl

Claude Debussy – Dawnsfeydd i’r Delyn a Phumawd Llinynol
Arnold Bax – Nonet
Gareth Glyn – I’r Pedwar Gwynt (Comisiwn newydd i Ensemble Cymru)
Handel – Concerto i’r Delyn Rhif 6
Rhian Samuel – Emerging (lightly) i Fiola Solo ac Ensemble Siambr

Tocynnau: £10 / £3
Swyddfa Docynnau: 01970 623232 / www.aberystwythartscentre.co.uk