Dyddiad 11/05/2018 Amser 10:00 am - 11:30 am
Cyngerdd mis Mai
Ar ôl 15 mlynedd o greu cerddoriaeth, mae ein ensemble mwy o faint yn galluogi rhaglen drawiadol ar gyfer mis Mai 2018 sy’n wirioneddol amrywiol o ran amser a lleoliad. O Gymru, mae’n bleser mawr gennym berfformio gweithiau gan ddau gyfansoddwr byw: comisiwn newydd sbon gan Gareth Glyn, ac Emerging (lightly) gan Rhian Samuel o Aberdyfi. O’r ugeinfed ganrif, cawn y perl na pherfformir mohoni’n aml, Nonet, gan y cyfansoddwr mawr o Loegr, Arnold Bax, ynghyd â Dawnsfeydd Debussy i’r Delyn a Phumawd Llinynnol, a gyfansoddwyd i ‘arddangos’ y delyn. O fynd yn ôl i 1738, mae concerto Hangel Op. 4, Rhif 6 i’r Delyn yn tynnu ar ymron i’r cyfan o’r grymoedd offerynnol amrywiol sydd gennym y tymor cyffrous hwn.
Gan ddiolch i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones am gefnogi Cadair Ryngwladol Ensemble Cymru i’r Delyn am yr ail flwyddyn.
AMSER NEWYDD! Dechrau am 10am.
Y Rhaglen
Cerddoriaeth i’r ffliwt, obo, clarinét, telyn, ffidlau, sielo a bas dwbl
Claude Debussy – Dawnsfeydd i’r Delyn a Phumawd Llinynol
Arnold Bax – Nonet
Gareth Glyn – I’r Pedwar Gwynt (Comisiwn newydd i Ensemble Cymru)
Handel – Concerto i’r Delyn Rhif 6
Rhian Samuel – Emerging (lightly) i Fiola Solo ac Ensemble Siambr
Tocynnau: £12 / £5
Swyddfa Docynnau: 01492 872 000 / www.venuecymru.co.uk